Materion gwledig

Ymgynghoriadau LlCC Agored

Ymgynghoriad ar ddiwygiad i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 - tocio pigau ieir dodwy a chyflawni rhai gweithdrefnau a ganiateir ar ddefaid

Agorwyd 04/08/10; Yn cau 15/09/10

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ddiwygiad i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007- tocio pigau ieir dodwy. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Ymgynghoriad ar reoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gorfodi) (Cymru) 2011

Agorwyd 26/07/10; Yn cau 10/09/10

Mae'r ymgynghoriad yn chwilio am eich sylwadau ar gynning gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddiweddaru ac ailosod reoliadau sgil-gynhyrchion anifelilaid (Cymru) 2006. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 - Ymgynghoriad ar Strategaeth Fwyd ar gyfer Cymru

Agorwyd 06/07/10; Yn cau 28/09/10

Diben yr ymgynghoriad yw cael barn unigolion a chyrff am strategaeth bwyd arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru. Mae'r strategaeth yn agwedd trawsbynciol fel sylfaen ar gyfer gweithio’n integredig ar bolisi bwyd ar gyfer Cymru. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Cyhoeddiadau LlCC perthnasol

Ffeithiau a Ffigurau Ffermio, 2010

(05/10)

Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned, Cynllun Datblygu Cynaliadwy newydd i Gymru

(22/05/09)

Ymchwiliadau Pwyllgorau’r Cynulliad

Diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Mae'r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Bydd y gweinidog perthnasol yn awr yn ymateb i’r adroddiad; i gysylltu a hi cliciwch yma.

Cynhyrchu a Hybu Bwyd Cymreig

Mae’r Is-bwyllgor Datblygiad Gwledig wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Mae’r gweinidog wedi ymateb ac mae’r adroddiad wedi cael ei drafod yn y Senedd. Os oes yna gwestiwn penodol yn codi o’r adroddiad, cysylltwch a’ch AC lleol.

Ymchwiliad i Ddyfodol Ucheldiroedd

Mae’r Is-Bwyllgor Datblygiad Gwledig wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Mae’r gweinidog wedi ymateb, a mae’r adroddiad wedi cael ei drafod yn y Senedd. Cysylltwch â’ch Aelod Cynulliad lleol os oes gennych gwestiynau penodol sydd yn codi o’r ymateb.

Lles anifeiliaid a hylendid cig

Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn gwrando ar dystiolaeth lafar. I ddarllen tystiolaeth ysgrifenedig a chofnodion cyfarfodydd, cliciwch yma.

Y Diwydiant Llaeth

Mae’r gweinidog wedi ymateb, a bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei drafod yn y Senedd. Cysylltwch â’ch Aelod Cynulliad lleol os oes gennych gwestiynau penodol sydd yn codi o’r ymateb.

Deisebau

Dim.

GCD/Mesurau Perthnasol

Mesur Diwydiant Cig Coch

Gwybodaeth Berthnasol o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) 2008: Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor (06/05/09)

Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 23/02/09): Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) 2008