Mesurau Wedi’u Cwblhau

Dysgu a Sgiliau

Nod y Mesur hwn yw i wneud darpariaeth ynghylch hawlogaeth plant sydd yn nwy flynedd olaf addysg orfodol a phersonau ifanc nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed i gael addysg; i wneud darpariaeth ynghylch y gwasanaethau perthynol i addysg a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach; i wneud darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth am y cwricwlwm; ac at ddibenion cysylltiedig. Mae’r mesur wedi ei basio ar ol cyfnod 4 ac wedi cael caniatad Brenhinol.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

02/12/08

28/01/09

17/03/09

17/03/09

13/5/09

Bwyta’n iach mewn ysgolion

Prif ddiben y Mesur arfaethedig yw cynnig polisi cyfannol, cynhwysfawr, wedi’i wneud yng Nghymru, yn ymwneud â maeth sy’n sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hybu a’i gefnogi ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol Cymru. Mae’r wedi ei basio gan y Cynulliad ac yn aros am ganiatad Brenhinol.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

06/10/08

10/06/09

08/07/09

08/07/09

15/10/09

Gwneud iawn am gamweddau’r GIG

Bydd Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) yn galluogi Gweinidogion Cymru i greu, mewn is-ddeddfwriaeth, fanylion y prosesau i’w dilyn gan gyrff y GIG yng Nghymru pan fyddant yn delio â sefyllfaoedd lle penderfynir, ar ôl ymchwiliad cychwynnol, y gallai esgeuluster fod wedi digwydd ond lle mae gwerth y digollediad yn debygol o fod yn gymharol isel. Bydd hyn yn galluogi cleifion i geisio iawn heb gychwyn achos cyfreithiol mewn llys a byddai’n un rhan o gyfres o drefniadau integredig, a fyddai hefyd yn cynnwys gweithdrefn gwynion y GIG a’r gweithdrefnau ar gyfer delio â digwyddiadau.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

24/01/08

11/03/08

06/05/08

06/05/08

09/07/08

Teithio gan ddysgwyr

Bydd y Mesur yn gwneud cyfraith ynghylch teithio gan ddisgyblion ysgol a phobl ifanc 16-19 oed sy’n derbyn addysg neu hyfforddiant yng Nghymru. Bydd y Mesur yn rhoi mwy o hawl i blant ysgolion cynradd gael cludiant am ddim i’r ysgol os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol; yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur, hybu mynediad i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg; ac yn rhoi’r pwer i awdurdodau lleol newid amserau sesiynau ysgolion os gall hynny arwain at welliannau o ran trefniadau cludo neu gynaliadwyedd amgylcheddol.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

29/04/08

03/07/08

30/09/08

30/09/08

10/12/08

Llywodraeth leol

Mae’r pwerau i wneud y Mesur hwn wedi’u cynnwys ym Materion 12.4 ac 12.5 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Amcan cyffredinol y Mesur yw rhoi rhagor o hyblygrwydd i awdurdodau ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau mewn cyd-destun cenedlaethol; creu cyfundrefn statudol sy’n integreiddio gwaith cynllunio strategol yn well yn y tymor hir ac yn gwella gwasanaethau yn y tymor byr; a diwygio’r gyfraith yn well er mwyn adlewyrchu natur a gwaith unigryw llywodraeth leol yng Nghymru.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

23/01/09

05/03/09

28/04/09

28/04/09

10/06/09

Mesur Comisiynydd Safonau

Bydd Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sail statudol i swydd y Comisiynydd Safonau. Bydd yn sicrhau bod y Comisiynydd, unwaith y caiff ei benodi, yn cael ei weld i fod yn gwbl annibynnol ar y Cynulliad ac felly’n gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau Pwyllgor gyda gwrthrychedd llwyr. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i’r Comisiynydd i’w alluogi i ymchwilio i gwynion yn drylwyr, yn cynnwys y pwer i’w gwneud yn ofynnol i drydydd parti ddarparu gwybodaeth berthnasol.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

13/05/09

14/06/09

14/10/09

14/10/09

09/12/09

Addysg

Bydd y Mesur Arfaethedig yn ymestyn hawliau plant drwy ddarparu'r hawl iddynt wneud apeliadau anghenion addysgol arbennig a hawliadau o wahaniaethu ar sail Anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (Y Tribiwnlys). Mi fydd yn diwygio deddfwriaeth sydd yn rhoi'r hawl i rhieni apelio a gwneud hawliadau i'r Tribiwnlys. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

07/07/09

01/10/09

03/11/09

03/11/09

10/12/09

Cludo Gwastraff i'w Adfer (Ymgysylltiad Cymunedau a'r Trefniadau)

Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried ac adrodd ar inter alia, effaith amgylcheddol a chymdeithasol defnydd terfynol a chyrchfan derfynol y deinyddiau ailgylchadwy a gesglir gan awdurdodau lleol. Cyhoeddodd y pwyllgor cyfnod 1 ei adroddiad ar Dachwedd 30 2009. Ar Fawrth 17 2010 tynwyd y cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol yn Mesur yn ôl gyda chytundeb y Cynulliad.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

30/11/09

Codi ffioedd am wasanaethau gofal cymdeithasol

Mae’r Mesur yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5. Prif ddiben y Mesur yw y bydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru nodi, mewn is-ddeddfwriaeth ac mewn canllawiau, fanylion fframwaith tecach, mwy cyson i awdurdodau lleol eu mabwysiadu wrth godi ffïoedd ar ddefnyddwyr gwasanaethau unigol am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Mae’r Mesur wedi cyrraedd cyfnod 2 o’r broses graffu. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

10/11/09

11/11/09

19/01/10

19/01/10

13/03/10

Diwydiant cig coch
Diben y Mesur arfaethedig yw darparu pwerau i Weinidogion Cymru i fedru gosod fframwaith er mwyn galluogi datblygu a hybu'r diwydiant cig coch yng Nghymru. Mae'n cynnwys gwneud darpariaethau am gynyddu effeithiolrwydd neu chynhyrchedd o fewn y diwydiant, gwella marchnata o fewn y diwydiant, gwella a datblygu'r gwasanaethau y mae'r diwydiant yn darparu neu y gall darparu i'r gymuned a gwella'r ffyrdd y mae'r diwydiant yn cyfrannu at datblygu cynaliadwy. Mae’r Mesur wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad, ac yn awr yn aros am ganiatad Brenhinol. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Adroddiad Cyfnod 1

Adroddiad Cyfnod 2

Dadl Cyfnod 3

Pleidlais Cyfnod 4

Caniatad Brenhinol

10/12/09

03/02/10

10/03/10

10/03/10

12/05/10