Yr wythnos ddiwethaf yn y Senedd
Byddai wedi bod yn hawdd maddau wythnos diwethaf, os y tybiodd arsylwyr fod gwleidyddiaeth wedi troi’r cloc yn ôl ddeg mlynedd gan fod William Hague a Tony Blair o dan chwyddwydr y cyfryngau. Gwnaeth Hague, ag yntau dan bwysau gan Rif Deg, gyhoeddiad hynod bersonol am ei fywyd preifat – nad yw bellach mor breifat â hynny, tra fod Blair yn hyrwyddo ei hunangofiant; ynddo mae’n dweud fod y broses datganoli yn ‘anochel’ ond mai claear yw tymheredd ei deimladau tuag ato.
Yn y cyfamser, cododd tymheredd yr ymgyrch refferendwm wythnos diwethaf, wrth i’r Comisiwn Etholiadol gyhoeddi ei adroddiad ar gwestiwn y refferendwm. Dywedodd nad yw’r geiriad presennol ddigon clir a’i fod yn anodd ei ddeall. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymreig, Cheryl Gillan, ei bod yn ystyried derbyn yr argymhellion i aileirio’r cwestiwn a bod yr amserlen dal yn cael ei gadw ato er mwyn cael pleidlais ar y mater cyn diwedd mis Mawrth 2011.
Mae’r ASau yn dychwelyd i San Steffan yr wythnos hon, yn dilyn eu gwyliau Awst oeraf ers 17 blynedd – ond dim ond am ychydig, nes i dymor cynadleddau’r DU ddechrau bythefnos yn ddiweddarach. Mae’r Cynulliad dal ar wyliau.
