Trefdadaeth, diwylliant, yr iaith Gymraeg a chwaraeon

Ymgynghoriadau LlCC Agored

Sicrhau cynhwysiant digidol: Fframwaith strategol i Gymru

Agorwyd 17/06/10; Yn cau 09/09/10

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i helpu i ddileu’r rhwystrau a wynebir gan y 900,000 o oedolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Gemau Olympaidd Llundain 2012: Rheoliadau Hysbysebu a Masnachu ar y Stryd – Rhag-hysbysiad

Mae Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd wedi rhag-hysbysu y bydd rheoliadau yn eu lle er mwyn cyfyngu ar fathau penodol o hysbysebu a masnachu ger lleoliadau gweithgareddau Olympaidd yn ystod Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae’n rhoi rhybudd cynnar i’r rhai sy’n debygol o fod â diddordeb neu o gael eu heffeithio gan y rheoliadau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Cyhoeddiadau LlCC perthnasol

Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a’r Cynllun Iaith Gymraeg 2009-10

(13/07/10)

Adolygiad o Safonau Dros Amser - TGAU a TAG Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf 2003-2008

(05/05/10)

Llythyr Cylch Gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 2010-11

(23/04/10)

Llythyr Cylch Gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2010-11

(12/04/10)

Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Llyfrau Cymru

(12/04/10)

Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Chwaraeon Cymru 2010-11

(04/03/10)

Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru 2010-11

(09/02/10)

Amgylchedd Hanesyddol Cymru: Datganiad Sefyllfa 2008

(12/01/10)

Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a'r Cynllun Iaith Gymraeg 2008-09

(30/11/09)

Perfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yng Nghymru

(29/09/09)

Datganiad Strategol Amgylchedd Hanesyddol Cymru

(21/09/09)

Llythyr Cylch Gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2009-10

(22/04/09)

Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Llyfrau Cymru 2009-2010

(21/04/09)

Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-10

(01/04/09)

LCO yr Iaith Gymraeg Holi ac Ateb

(03/02/09)

Y Gymraeg: Hanes, Ffeithiau a Ffigurau

(02/02/09)

Arddangos celfyddydau gweledol yng Nghymru yn y dyfodol

(14/10/08)

Ymchwiliadau Pwyllgorau’r Cynulliad

Hygyrchedd digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru

Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad i hygyrchedd digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru ac yn galw am dystiolaeth gan bawb sydd â diddordeb. Dylai pawb sydd â diddordeb yn hyn gyflwyno eu tystiolaeth ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 24 Medi 2010. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Hyrwyddo Celfyddydau a Diwylliant Cymru ar Lwyfan y Byd

Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Mae’r adroddiad wedi ei drafod yn y Senedd.

Grwp Rapporteur ar Ddwyieithrwydd

Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu wedi sefydlu Grwp Rapporteur ar Ddwyieithrwydd. Hyd yma, maent wedi cynnal cyfarfodydd anffurfiol gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg; wedi ymweld ag Ysgol Gyfun Treorci i siarad gydag athrawon, disgyblion, rhieni ac aelodau o’r gymuned leol; ac wedi cyfarfod â swyddogion ESIS (y Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion) yn Nhrefforest i drafod gwaith yr Athrawon Bro (sy’n cynorthwyo athrawon i addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd). I lenwi holiadur y grwp, cliciwch yma.

Gwneud y gorau o ddigwyddiadau chwaraeon mawr

Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Bydd y gweinidog perthnasol yn awr yn ymateb i’r adroddiad; i gysylltu ag ef cliciwch yma.

Deisebau

E-Ddeiseb: Galwad am Dîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012

Ar agor ers 11/08/08

Mae’r deisebwyr yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau fod tîm o Gymru yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2012, a phob gemau wedi hynny. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Statws: Mae ymateb wedi cael ei dderbyn gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, ond mae’r pwyllgor yn aros am ymateb gan y Gymdeithas Olympaidd Ryngwladol a Chymdeithas Olympaidd Prydain. Mae’r deisebwyr am gael eu hysbysu o hyn.

Camlas Morgannwg

Ar agor ers 10/02/09

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi’r awydd i greu llwybr hanesyddol Camlas Morgannwg o Ferthyr i Fae Caerdydd gan nodi lleoliadau o bwys ar y ffordd, ynghyd â safleoedd hanesyddol eraill o fewn cyrraedd i’r Gamlas e.e. Llong Ysbyty Hamadryad, fel modd o annog diddordeb yn hanes y rhanbarth a thwristiaeth a darparu llwybr cerdded a beicio diddorol a heriol. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Statws: Mae gwybodaeth bellach wedi ei dderbyn gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai a’r Gweinidog dros Dreftadaeth. Mae’r pwyllgor am gysylltu â Chynghorau Rhondda Cynon Tâf a Chaerdydd i ofyn am wybodaeth pellach am y mater.

Adran 6, Deddf yr Iaith Gymraeg

Ar agor ers 21/05/09

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd o ddiwygio ac i wneud gwelliannau i Adran 6, Deddf yr Iaith Gymraeg, i ddod ag Aelodau Seneddol o dan adain Deddf yr Iaith Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Statws: Nododd ymateb gan y Gweinidog dros Dreftadaeth nad ydyw’n credu ei fod yn addas i ASau baratoi cynlluniau iaith Gymraeg. Mae’r pwyllgor am gysylltu â’r deisebwyr am hyn, ynghyd â’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol i ofyn eu barn am y mater.

GCD/Mesurau Perthnasol

Mesur yr Iaith Gymraeg

Mesur Meysydd Chwarae

Gwybodaeth Berthnasol o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan

Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 08/03/10): Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Arfaethiedig (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a meusydd eraill) 2009 : Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad cyntaf y Pwyllgor

Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 07/12/09): Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Arfaethiedig (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant) 2009

Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 22/05/09): Buddion posib y Gemau Olympaidd a Paralympaidd 2012 i Gymru