Iechyd a gofal cymdeithasol
Ymgynghoriadau LlCC Agored
Fframwaith Arfer Da drafft i Bobl ag Anableddau Dysgu y mae angen Gofal Eilaidd Cynlluniedig arnynt
Agorwyd 02/09/10; Yn cau 23/12/10
Mae tystiolaeth gadarn yn dangos bod gan bobl ag anableddau ddysgu iechyd gwaeth yn gyffredinol a bod eu hanghenion iechyd yn fwy penodol na'r boblogaeth gyffredinol. Er bod ganddynt fwy o anghenion iechyd, mae pobl ag anableddau dysgu yn ei chael yn anodd cael gafael ar wasanaethau iechyd. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Cynllun Taliadau Uniongyrchol Gofal yn y Gymuned
Agorwyd 20/08/10; Yn cau 10/12/10
Taliadau uniongyrchol yw taliadau a wneir gan awdurdodau lleol yn uniongyrchol i rai unigolion (gan gynnwys gofalwyr) sydd ag anghenion gofal cymunedol a aseswyd. Mae'r taliadau hyn yn galluogi unigolion i brynu eu gwasanaethau gofal eu hunain. Felly, mae talu'r unigolion yn uniongyrchol yn grymuso'r unigolion ac yn annog annibyniaeth, dewis a chynhwysiant. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Canllawiau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2010
Agorwyd 20/07/10; Yn cau 14/09/10
Mae Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn canolbwyntio ar sut mae Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) ac Awdurdodau Lleol yn gallu gwella iechyd a lles eu poblogaeth gyda’i gilydd. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Estyn cymhwysedd i blant o dan 3 oed sydd â chyflyrau meddygol penodol a phobl sydd ag anableddau difrifol yn y ddwy fraich
Agorwyd 08/07/10; Yn cau 30/09/10
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar ddau gynnig cynnar i estyn y Cynllun Bathodyn Glas ar gyfer: plant o dan 3 oed sydd â chyflyrau meddygol penodol; ac ar gyfer pobl sydd ag anableddau difrifol yn y ddwy fraich sy’n gyrru cerbyd ac yn analluog i weithredu neu’n cael anhawster gweithredu meter parcio neu gyfarpar talu ac arddangos. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Cyhoeddiadau LlCC perthnasol
Adroddiad Blynyddol Prif Weithredwr GIG Cymru 2009/10
(06/09/10)
Llythyr Gweinidogol ML/EH/033/09: Cyfuniad o reolau rhestr aros
(24/08/10)
Rheoli Risg Fasgwlaidd yng Nghymru: Adroddiad gan y Grŵp Prosiect Fasgwlaidd (Mawrth 2010)
(23/08/10)
Canllaw dros dro ar dimau iechyd meddwl cymunedol
(16/08/10)
Llythyr i Aelodau y Cynulliad - Gwasanaethau Demensia
(16/08/10)
Canllawiau Statudol: Fframwaith Comisiynu a Chanllawiau Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol
(10/08/10)
(09/08/10)
Adroddiad y Gynhadledd Oedolion ag Awtistiaeth
(05/08/10)
Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Leoli Oedolion
(04/08/10)
Adolygiad o Gyngor Gofal Cymru ac asesu llywodraethu sy’n canolbwyntio ar y dinesydd
(03/08/10)
Cyflawni'r Dull Rhaglen Ofal yng Nghymru: Canllawiau Interim ar gyfer Rhoi'r Polisi ar Waith
(03/08/10)
Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Iechyd meddwl Diogel i Gymru
(03/08/10)
Gosod y Cyfeiriad: Gwasanaethau Cychwynnol a Chymuned - Rhaglen Strategol ar Gyfer Cyflenwi
(27/07/10)
Datblygu Pellach Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru
(14/07/10)
Llythyr Gweinidogol ML/EH/029/10: Diwygio'r safonau cenedlaethol ar gyfer ymatebion gan ambiwlansiau
(14/07/10)
Llythyr Gweinidogol EH/ML/025/ML 025: Rhaglen Imiwneiddio rhag y Ffliw Tymhorol 2010-11
(13/07/10)
Taflen ffeithiau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)
(07/07/10)
Llythyr gan Weinidog EH/ML/016/10: Gwasanaeth Ocsigen yn y Cartref: Asesiad o’r Claf
(05/07/10)
(28/06/10)
(18/06/10)
Ministerial Letter EH/ML/018/10: Continuing NHS Healthcare: New National Framework for Adults
(14/06/10)
Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Gofal Cymru
(26/05/10)
Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Ysbrydol yn y GIG yng Nghymru 2010
(25/05/10)
Cylchlythyr Cronfa Datblygu Rheoli Perfformiad (PMDF)
(14/05/10)
Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (RDGGC)
(14/05/10)
Preswyliaeth Gyffredin: y Trefniadau Rhwng yr Ysgrifennydd Gwaladol a Gweinidogion Cymru
(11/05/10)
Grwpiau rhanddeiliaid ym maes demensia - cynlluniau gweithredu
(10/05/10)
C 14/2010 - Codi Tâl Am Lety Preswyl - Diwygio'r Canllawiau Rhif 26
(29/04/10)
Safonau Ansawdd ar gyfer Clywedeg Pediatrig (Cymru)
(24/04/10)
(19/04/10)
Presgripsiynau am Ddim Dair Blynedd yn Ddiweddarach
(07/04/10)
(01/04/10)
Llythyr Gweinidogol EH/ML/004/10: 2010-11 Dyraniadau Refeniw y Byrddau Iechyd
(31/03/10)
Astudiaeth Annibynnol o Oedi wrth Drosglwyddo Gofal
(31/03/10)
Rhoi Organau ar gyfer Crwneriaid a Chydlynwyr Rhoddwyr sy'n gweithio gyda Chrwneriaid.
(30/03/10)
Ceisiadau i Neilltuo Organau sy’n perthyn i Roddwr Organau sydd wedi marw
(30/03/10)
Llythyr gan y Gweinidog 039/09: Strategaeth Lymffoedema
(20/01/10)
Llythyr Gweinidogol EH/ML/030/09: Safonau Glendid Cenedlaethol diwygiedig yn GIG Cymru
(11/12/09)
Ein Dyfodol Iach - Papur gwaith technegol
(09/12/09)
Strategaeth ar gyfer Lymffoedema yng Nghymru
(08/12/09)
Mewn Dwylo Diogel - Swyddogaeth Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
(30/11/09)
Agweddau Cyfreithiol Cynyddu Cyfraddau Rhoddi gan Roddwyr Organau nad yw eu Calon yn Curo.
(20/11/09)
(20/10/09)
(10/06/09)
Ymchwiliadau Pwyllgorau’r Cynulliad
Cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog
Mae ymchwiliad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru’n cael ei gynnal i ganfod pa gymorth sydd ar gael i helpu cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn edrych ar sut y gellir canfod pa gyn-filwyr sy’n dioddef o PTSD a’u trin ac a oes cymorth addas ar gael ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth wneud hynny cyn dydd Gwener Medi 3 2010. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Gwasanaethau orthodontig yng Nghymru
Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad i ofal orthodontig yng Nghymru ac mae’n galw am dystiolaeth gan bartïon sydd â diddordeb. Dylai unrhyw gyflwyniadau gyrraedd erbyn dydd Gwener, 3 Medi fan bellaf. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Y Defnydd o Welyau Haul yng Nghymru a’u Rheoleiddio
Mae’r gweinidog wedi ymateb, a bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei drafod yn y Senedd. Cysylltwch â’ch Aelod Cynulliad lleol os oes gennych gwestiynau penodol sydd yn codi o’r ymateb.
Gwasanaethau Stroc yng Nghymru
Mae’r adroddiad wedi cael ei drafod yn y Senedd. Cysylltwch â’ch Aelod Cynulliad lleol os oes gennych gwestiynau penodol sydd yn codi o’r ymateb.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae’r adroddiad wedi ei drafod yn y Senedd.
Trefniadau ar gyfer Rhoi Plant a Phobl Ifanc mewn Gofal yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gwrando ar dystiolaeth lafar. I ddarllen trawsgrifiadau o gyfarfodydd ysgrifenedig, cliciwch yma.
Ymchwiliad i wahaniaethu yn erbyn pobl sy’n byw gyda HIV gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a darparwyr gofal iechyd
Mae’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Bydd y gweinidog perthnasol yn awr yn ymateb i’r adroddiad; i gysylltu a hi cliciwch yma.
Gwasanaethau Cadeiriau Olwyn Yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Mae’r Gweinidog wedi ymateb, a mae’r adroddiad wedi cael ei drafod yn y Senedd. Cysylltwch a’ch AC leol os oes unrhyw faterion penodol yn codi o’r adroddiad.
Gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi ei adroddiad. I’w ddarllen, cliciwch yma. Bydd y gweinidog perthnasol yn awr yn ymateb i’r adroddiad; i gysylltu a hi cliciwch yma.
Byrddau Lleol Diogelu Plant
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Fyrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Fyrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor yn gwrando ar dystiolaeth lafar. I ddarllen trawsgrifiadau o gyfarfodydd ysgrifenedig a thystiolaeth ysgrifenedig, cliciwch yma.
Deisebau
Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig
Ar agor ers 12/06/10
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod ac i ddarparu gwasanaethau ar gyfer adsefydlu plant sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd. Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster yng Nghymru i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn. Er gwaetha’r ffaith bod ysbyty benodol ar gyfer plant yn cael ei hadeiladu yng Nghaerdydd, nid oes darpariaeth o hyd wedi’i chynnwys yng nghynllun yr ysbyty hwnnw. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Mae’r pwyllgor derbyn ymateb gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â’r ddeiseb hon. Nodwyd fod angen gofyn cwestiynau pellach, megis y gwelliannau i’r gwasanaeth ac os yw’n cael ei fonitro ledled Cymru.
Datblygu Gwasanaethau Gwybodaeth am HIV a Iechyd Rhywiol
Ar agor ers 19/05/10
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnodd aml-lwyfan ar gyfer pobl ifanc yn rhoi gwybodaeth am HIV ac iechyd rhywiol, sy’n ymdebygu i ymgyrch gyffuriau "Frank". Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Mae ymateb wedi ei dderbyn gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae llythyr wedi ei anfon at y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ogystal. Bydd y deisebwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn adolygiad o waybodaeth addysg ryw.
Meddygfeydd yn Sir y Fflint
Ar agor ers 06/10/07
Mae doctoriaid o Feddygfa’r Laurels, Meddygfa Eyton Place a Chanolfan Feddygol Allt Goch yn galw am Ganolfan Gofal Sylfaenol i’r ardal ar fyrder. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Nododd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwaith hwn yn cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Bydd llythyr yn cael ei anfon at y Bill Betsi Cadwaladr i ofyn am yr amserlen ar gyfer adeiladu’r ganolfan iechyd newydd yn y Fflint.
Parcio yn Y Mynydd Bychan a Birchgrove
Ar agor ers 23/04/08
Mae’r deisebwyr yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i 1) Gynghori Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro i: ddarparu digon o le parcio ar y safle ar gyfer staff ac ymwelwyr trwy gael ardaloedd addas ar gyfer parcio i’r ysbyty ar y safle ac ar dir fel yr ardal ddiffaith i’r gogledd o’r rhandiroedd gyferbyn ag Ysbyty’r Mynydd Bychan ar yr ochr arall i Eastern Avenue, ddatganoli rhai o’r gwasanaethau sydd eisoes ar safle’r Mynydd Bychan a pheidio â gwerthu tir ysbytai yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos ar gyfer tai; 2) Argymell bod Cyngor Sir Caerdydd yn: Gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu pellach ar safle Ysbyty’r Mynydd Bychan oni bai bod uned yn cael ei symud o’r safle, a fydd â’r un effaith ar draffig, peidio â chefnogi datblygiadau amlfeddiannaeth yn yr ardal a chyflwyno system parcio am gyfnod cyfyngedig yn y strydoedd sydd o fewn pellter cerdded i Ysbyty’r Mynydd Bychan; 3) Ystyried o fewn y Cynulliad, cyflwyno system a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol apelio i’r Cynulliad pan fydd y cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y mae’r trigolion yn ystyried a fydd yn gwaethygu’r broblem barcio yn yr ardal. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Mae gwybodaeth wedi ei dderbyn gan y deisebwyr a’r Bwrdd Iechyd Lleol, sydd wedi cynnal adolygiad o’r Cynllun Teithio Cynaliadwy. Bydd llythyr arall yn cael ei anfon at y BILl i ofyn am y sefyllfa bresennol ac am y gwaith y maent wedi ei wneud â Chyngor Dinas Caerdydd, er mwyn diweddaru’r deisebwyr.
Uned Gofal Arbennig i Fabanod
Ar agor ers 04/11/08
Mae’r deisebwyr yn protestio yn erbyn israddio Uned Gofal Arbennig i Fabanod Ysbyty Brenhinol Morgannwg o uned gofal dwys lefel 3 i uned dibyniaeth mawr. Er eu bod yn deall yr angen i sicrhau bod y lefelau staffio’n ddigonol a bod gan y staff y cymwysterau addas i sicrhau bod cleifion yn ddiogel, rydym yn gresynu wrth y diffyg buddsoddi sydd wedi arwain at y sefyllfa hon. Maent felly yn ceisio’r sicrwydd mai rhywbeth dros dro am yr amser byrraf bosibl yw’r israddio hwn, ac y bydd yr uned yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei hailsefydlu fel uned gofal dwys lefel 3 lawn. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Mae gwybodaeth wedi ei dderbyn gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ynglŷn â’i ymchwiliad i Wasanaethau Newydd-anedig. Bydd y deisebwyr yn cael eu hysbysu o’r gwaith sydd wedi ei wneud.
Cyfleusterau gofal i ddioddefwyr demensia
Ar agor ers 23/03/09
Mae’r deisebwyr, y GMB - Undeb Cenedlaethol Prydain yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod darpariaeth briodol a digonol o ofal arbenigol ar gael ar gyfer pobl â demensia/henoed bregus eu meddwl a darpariaeth briodol a digonol o ganolfannau/cartrefi ar gael ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi darparu gwybodaeth am y pedwar gwelliant sydd wedi eu gwneud ar gyfer darpariaeth gwasanaethau gofal. Mae’r pwyllgor yn aros am ymateb CLlLC am ddarpariaeth yr awdurdodau lleol.
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Ar agor ers 02/03/10
Mae’r deisebwyr yn gwrthwynebu, yn y modd cryfaf bosibl, y penderfyniad i gau Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymrwymiad i ailddatblygu’r ysbyty’n cael ei gyflawni gan ddefnyddio arian cyhoeddus, a bod y gwaith ailddatblygu yn arwain at ailwampio ac ailagor Ysbyty Brenhinol Caerdydd fel ysbyty sy’n gweithredu’n llawn, gan gynnwys Uned Damweiniau ac Achosion Brys ac Uned Gofal Dwys ar gyfer poblogaeth Caerdydd a’r cyffiniau, sy’n cynyddu o hyd. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Mae gwybodaeth pellach wedi ei dderbyn gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Bwrdd Iechyd Lleol a’r deisebwyr. Bydd y pwyllgor yn cysylltu â’r deisebwyr gyda manylion o’r gwasanaethau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ac i ofyn i’r BILl i ystyried barn y deisebwyr.
Parhewch i ariannu gwasanaethau cymorth ar gyfer demensia cynnar
Ar agor ers 31/05/10
Mae’r deisebwyr yn nodi’r bygythiad a berir i’r gwasanaethau cymorth ar gyfer demensia cynnar a gynigir yn Llys Oldwell, y Rhâth, a bod y sefyllfa hon efallai’n rhedeg yn groes i Amcan 26 o’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn. Maent yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru barhau i amddiffyn ac ariannu’r gwasanaethau hanfodol hyn. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Statws: Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethu Cymdeithasol wedi nodi y bydd Byrddau Iechyd Lleol yn parhau i ariannu’r gwasanaethau, felly mae’r ddeiseb wedi ei chau yn swyddogol.
GCD/Mesurau Perthnasol
Mesur Strategaethau ar gyfer gofalwyr
Gwybodaeth Berthnasol o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan
Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 06/01/10): Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol (cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gofal Iechyd a Lles Cymdeithasol) 2009: Ymateb y Llywodraeth i i Bedwerydd Adroddiad ar Ddeg Sesiwn 2008-09, yn cyfeirio at Iechyd Meddwl
Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i’r Gwasanaethau Iechyd tros-ffiniol.
Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 30/10/09): Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol)(Iechyd a Gofal Iechyd a Lles Cymdeithasol) 2009
Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 17/06/09): Gorchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 – Ymateb y Llywodraeth
Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 28/04/09): Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009
Adroddiad Pwyllgor (cyhoeddwyd 27/03/09): Gwasanaethau Iechyd Traws-ffiniol yng Nghymru
