Trefniadau Monitro
Bydd prosiect Lleisiau dros Newid yn para 3 blynedd o fis Mai 2008 ymlaen, gyda chefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr.
Targed cyffredinol y prosiect yw ymgysylltu â 2000 o fudiadau yn ystod oes y prosiect, a dyma rai o'r canlyniadau yr ydym yn gweithio tuag atynt:
- bod gan bobl a chymunedau yng Nghymru well dealltwriaeth o sut y mae'r Cynulliad yn gweithio, a sut y gallant weithio gyda'r Cynulliad
- bod pobl a chymunedau yng Nghymru yn gallu dylanwadu'n well ar waith y cynulliad a chyfathrebu'n well gydag Aelodau'r Cynulliad
- bod profiadau llawr gwlad o wasanaethau’n cael eu cynnwys yn well yng ngwaith deddfwrfa’r Cynulliad ac ym mhrosesau chraffu llywodraeth leol
- bod polisïau'r Cynulliad yn adlewyrchu'n well anghenion a phrofiadau pobl a chymunedau yng Nghymru
- bod pobl a chymunedau yn cynyddu eu sgiliau ac yn magu hyder o ran datblygu a chyfleu syniadau ac anghenion
Cynhelir gwaith monitro a gwerthuso yn ystod y prosiect ac ar ôl iddo ddod i ben, er mwyn sicrhau y bydd yn cyflawni ei amcanion. Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau ynghylch pa wasanaethau prosiect a fydd yn sicrhau y caiff yr amcanion hyn eu cyflawni.
