Strwythur y cynghorau
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cynghorau wedi moderneiddio eu trefniadau rheoli. Mae systemau pwyllgorau a oedd wedi bodoli cyhyd (ydych chi’n cofio’r pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol a’r pwyllgor addysg?) wedi cael eu disodli gan fodelau llywodraethu gweithredol a seilir yn fras ar system gabinet o lywodraeth. Yng ngweithrediaeth y model cabinet (grŵp bach sy’n cynnwys arweinydd y cyngor a chynghorwyr sydd â chyfrifoldebau portffolio penodol megis y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg), gwneir penderfyniadau y bydd y cyngor llawn yn pleidleisio arnynt wedyn. Yn amlwg, mae cyfeiriad a dewisiadau polisi y blaid wleidyddol gryfaf yn debygol o gael eu cymeradwyo gan y bydd y cynghorwyr yn pleidleisio yn unol â safbwynt eu plaid.
Mae gan 19 o’r cynghorau gabinet ynghyd ag arweinydd. Caiff y 3 chyngor arall (Powys, Gwynedd a Merthyr Tudful) eu rhedeg gan fwrdd gweithredol a chydbwysedd gwleidyddol arno, ond eto mae hwn yn grŵp llai o gynghorwyr, yr un fath â’r cabinet yn y 19 ardal arall. Ceir strwythurau staff helaeth ym mhob awdurdod ac yn bennaeth arnynt ceir prif weithredwr sy’n gweithio gydag uwch swyddogion eraill ar fusnes a phenderfyniadau o ddydd i ddydd.
Felly, y cabinet neu’r bwrdd yw sail grym unrhyw gyngor ac mae’r cynghorwyr sy’n aelodau o’r cabinet neu’r bwrdd yn amlwg yn uchel eu proffil ac yn rymus o safbwynt gwleidyddiaeth leol. Fodd bynnag, mae cynghorwyr meinciau cefn hefyd yn bwysig o ran y ffordd y mae cynghorau’n gweithredu. Efallai y byddant yn gwasanaethu ar y pwyllgorau rheoliadol y mae rhaid i gynghorau eu cael, megis trwyddedu a rheoli datblygu. Neu, efallai y byddant yn ymwneud â’r swyddogaeth graffu, lle caiff y cabinet neu’r bwrdd ei ddal i gyfrif am ei benderfyniadau ac y bydd polisïau a gwasanaethau’n cael eu harchwilio er mwyn eu gwella. Mae craffu yn swyddogaeth eithriadol o bwysig o fewn awdurdodau lleol ac mae’n rhywbeth y caiff mudiadau’r trydydd sector gyfle i gyfrannu iddo. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am graffu.
I gael rhagor o wybodaeth am strwythur eich cyngor chi, ewch i’w wefan.
