Cynghorau Tref a Chymuned
Mae 736 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru gyda rhyw 8,000 o gynghorwyr yn cynrychioli buddiannau’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Nid oes gan bob rhan o Gymru gyngor tref neu gymuned serch hynny – mae’r 736 o gynghorau yn cwmpasu 90% yn fras o’r arwynebedd tir a 70% o’r boblogaeth, er nad yw’n anodd sefydlu cyngor yn eich ardal os nad oes un gennych eisoes.
Tan 1974, roedd y cynghorau cymuned yn cael eu galw’n gynghorau plwyf yng Nghymru, ond newidiwyd yr enw yng Nghymru fel rhan o’r newidiadau a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae cynghorau plwyf yn dal i fodoli yn Lloegr a’r un pwerau sydd gan gynghorau plwyf a chynghorau cymuned. I raddau helaeth, bydd pa un ai cyngor tref ynteu gyngor cymuned sydd gennych yn dibynnu ar faint y boblogaeth – po fwyaf y gymuned, y mwyaf tebygol yw o gael ei alw’n gyngor tref.
Dyma’r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl. Mae llawer o gynghorwyr tref neu gymuned yn cynrychioli’r gymuned gyfan y mae’r cyngor yn ei chwmpasu, felly bydd pob un o’r cynghorwyr tref neu gymuned yn eich cynrychioli chi. Fodd bynnag, caiff rhai ardaloedd eu rhannu’n wardiau cymunedol llai a dim ond rhai o’r cynghorwyr fydd yn cynrychioli’r ardal lai honno.
Mae gan gynghorau tref a chymuned bwerau dros faterion lleol iawn, yn cynnwys:
- darparu a chynnal cynlluniau cludiant cymunedol
- mesurau gostegu traffig
- prosiectau ieuenctid lleol
- meysydd parcio
- meysydd pentref
- cyfleusterau hamdden
- toiledau cyhoeddus
- biniau sbwriel
- glanhau strydoedd
- rhandiroedd
- mannau agored
- llochesau bws
- mynwentydd
- llwybrau troed
Maent hefyd yn gyrff y mae’n ofyniad statudol ymgynghori â nhw ynglŷn â cheisiadau cynllunio yn eu hardal.
Mae gan gynghorau tref a chymuned yr hawl i godi arian ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu drwy drethi lleol. Caiff treth fach, a elwir yn "braesept", ei hychwanegu at eich treth gyngor a’i chasglu gyda’r dreth gyngor. Mae edrych ar eich bil treth gyngor yn un ffordd o ganfod a oes cyngor tref neu gymuned yn gwasanaethu eich ardal chi, oherwydd bydd y braesept yn cael ei dangos fel eitem ar eich bil. Ffordd arall fyddai cysylltu â’ch cyngor lleol a fydd yn gwybod am yr holl gynghorau tref a chymuned yn ei ardal. Neu gallech fynd i wefan Un Llais Cymru. Dyma’r corff sy’n cynrychioli ac yn darparu gwasanaethau cymorth i gynghorau tref a chymuned yng Nghymru ac ar ei wefan ceir llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol am ddalgylchoedd daearyddol cynghorau Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am yr hyn a wnânt a sut i sefydlu cyngor yn eich ardal chi os nad oes un yn bodoli eisoes.
