Cynllun Datblygu Lleol

Mae’r Cynllun Datblygu Unedol yn cael eu disodli gan Gynlluniau Datblygu Lleol a fydd yn cael eu mabwysiadu o 2011 ymlaen. Maen nhw’n ymwneud â defnydd tir ac yn nodi sut fydd ardal awdurdod yn datblygu, newid neu’n cael ei warchod dros gyfnod o 10-15 mlynedd. Rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol ystyried Cynllun Gofodol Cymru ac, fel rhan o’r gwaith paratoi cychwynnol, rhaid i awdurdodau lleol gytuno ar a mabwysiadu Cynllun Cynnwys Cymunedau, yn nodi sut fydd cymunedau lleol, y trydydd sector, busnesau, y sector cyhoeddus a Llywodraeth y Cynulliad yn cael eu cynnwys yn y broses. Dylai hyn adlewyrchu’r dull corfforaethol o gynnwys y gymuned a, lle bo hynny’n bosibl, argymhellir cydgyfranogi wrth ddatblygu’r Strategaeth Gymunedol a’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r cynlluniau a’r strategaethau (neu elfennau ohonynt) sydd efallai wedi cael eu llyncu neu eu cyfuno gan y Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys:

  • Strategaeth Dai Leol (gan gynnwys y strategaeth leol ar ddigartrefedd a’r strategaeth Tai i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig)

  • Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl

  • Cynlluniau Busnes Cyfrifon Refeniw Tai (i awdurdodau sy’n dal i fod â stoc dai)

  • Cynllun Trafnidiaeth Lleol

  • Strategaeth Adfer Tir Halogedig

  • Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

  • Cynllun Rheoli Ansawdd Aer Lleol

  • Strategaeth Rheoli Gwastraff Bwrdeistrefol

  • Cynllun Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol