Strategaeth Gymunedol
Diben y Strategaeth Gymunedol yw dwyn ynghyd pawb sy’n gallu cyfrannau at ddyfodol cymunedau mewn ardal awdurdod lleol, i gytuno ar y prif flaenoriaethau ar gyfer yr ardal a mynd ati i’w gweithredu mewn partneriaeth. Y Strategaeth Gymunedol yw’r strategaeth drosfwaol i bob ardal awdurdod lleol. Rhaid iddi ddarparu gweledigaeth strategol tymor hir i hybu neu wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, ar sail cyfres o werthoedd a dyheadau cyffredin sydd wedi eu trafod a’u negodi gyda dinasyddion lleol, cymunedau a’u harweinwyr. Yn ôl y cyfarwyddyd statudol ar gyfer datblygu a darparu strategaethau cymunedol,
"Dylai strwythur y bartneriaeth drosfwaol sicrhau bod amrywiaeth y trydydd sector wedi’i adlewyrchu ym mhob partneriaeth sy’n cefnogi datblygiad a gweithrediad amcanion y strategaeth gymunedol…"
Felly, dylid adlewyrchu prif gyfeiriad a blaenoriaethau strategol y Strategaeth Gymunedol yn y strategaethau statudol ac anstatudol eraill, gyda’r pedwar cynllun wedi eu cydgysylltu ac yn croesgyfeirio at ei gilydd. Mae’r cynlluniau neu’r strategaethau (neu elfennau ohonynt) sydd efallai wedi cael eu llyncu gan y broses hon, neu sy’n rhaid eu halinio â’r broses hon mewn rhyw ffordd, yn cynnwys:
- Strategaeth Dai Leol
- Cynllun Trafnidiaeth Lleol
- Strategaeth Lleihau Troseddu ac Anrhefn (Cynllun Diogelwch Cymunedol)
- Cynllun Gweithredu Lleol Camddefnyddio Sylweddau
- Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn (Cynllun Gweithredu Lleol)
Mae hefyd yn berthnasol nodi yn y fan hyn pa mor bwysig yw Cytundebau Darparu Lleol a baratoir gan Fyrddau Gwasanaeth Lleol. Maen nhw’n gosod allan y cydweithredu gan bartneriaid ar nifer fach o brosiectau heriol sydd angen arweiniad, sgiliau datrys problemau a chefnogaeth y Byrddau Gwasanaeth Lleol. Bydd y prosiectau wedi eu gwreiddio ym mlaenoriaethau’r Strategaeth Gymunedol ac yn rhan o gynllun gweithredu’r Strategaeth Gymunedol.
