Adnoddau Eraill

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ddefnyddiol am lywodraeth leol ar y gwefannau canlynol:

  • www.walescandidateguide.co.uk Dyma arweiniad syml ar gyfer cynghorwyr newydd neu bobl sy'n ystyried sefyll etholiad. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth hwylus am sut mae llywodraeth leol yn gweithio a beth yw gwaith cynghorwyr lleol.

  • www.wlga.gov.uk Dyma wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) sy’n cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth yn ôl pwnc ar faterion sy'n effeithio ar lywodraeth leol. Mae’n werth cofio bod WCVA yn gweithio'n glòs gyda CLlLC i gyfleu buddiannau'r trydydd sector i lywodraeth leol.

  • www.idea.gov.uk Dyma wefan yr Asiantaeth Gwella a Datblygu ar gyfer llywodraeth leol. Mae'r Asiantaeth yn eiddo i'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, ac mae CLlLC yn rhan o’r Gymdeithas honno. Mae'r wefan yn cynnwys digonedd o wybodaeth yn ôl pwnc ac enghreifftiau o ymarfer da.

  • www.urbanforum.org.uk Yn adran cyhoeddiadau'r wefan hon, bydd modd i chi lwytho i lawr gopi o lyfryn defnyddiol o’r enw "How your Council Works - a handy guide for community groups". Mae rhywfaint o'r wybodaeth yn berthnasol i Loegr yn unig, ond mae dal yn werth ei gael oherwydd mae llawer o’r wybodaeth yn berthnasol i Gymru.

  • www.onevoicewales.org.uk Dyma wefan Un Llais Cymru sy’n cynrychioli ac yn darparu gwasanaethau cymorth i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Yma, cewch ragor o wybodaeth am yr hyn y mae cynghorau tref a chymuned yn ei wneud, ble maen nhw yng Nghymru a sut mae ffurfio un yn eich ardal chi.

  • www.writetothem.com Mae hon yn wefan eithriadol o ddefnyddiol er mwyn canfod pwy sy’n eich cynrychioli ar eich cyngor lleol, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd y DU a’r Senedd Ewropeaidd. Y cyfan y mae gofyn ichi ei wneud yw teipio eich cod post a bydd yn rhoi manylion cyswllt eich cynrychiolwyr etholedig ichi (ar bob lefel ar wahân i lefel cynghorau tref a chymuned).

  • www.wcva-ids.org.uk/wcva/1050 Yma, cewch fanylion cyswllt holl Gynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru. Maent yn gyswllt hanfodol â gwleidyddiaeth leol yn eich ardal.