Byrddau Gwasanaethau Lleol
Byrddau Gwasanaethau Lleol yw model newydd Cymru ar gyfer cynnwys gwasanaeth cyhoeddus Cymru drwyddo draw mewn ffordd newydd o weithio, drwy integreiddio gwasanaethau ac ymateb yn fwy effeithiol i anghenion dinasyddion. Pwrpas sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol yw galluogi arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus lleol i ymateb i ddinasyddion yn fwy effeithiol. Mae amryw o Fyrddau Gwasanaethau Lleol yn gweithredu fel "elfen weithredol" y Partneriaethau Strategaeth Gymunedol, a’r rheini yw fforwm pennu gweledigaeth allweddol y gymuned o hyd.
Y nod yw gwella gwasanaethau lleol ar gyfer dinasyddion drwy gronni adnoddau a dileu biwrocratiaeth neu rwystrau eraill. Bydd un o uwch swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda phob tîm arwain lleol er mwyn helpu i gyflawni hyn.
Nid yw’r Byrddau Gwasanaethau Lleol yn fudiadau nac yn sefydliadau newydd – nhw yw’r tîm arwain lleol. Bydd eu haelodau’n cynnwys arweinwyr allweddol o'r sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat, a fydd yn gweithio fel partneriaid cydradd, yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros gydgysylltu rhwydwaith cyfan y gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardal. Byddant yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol eraill yn eich ardal o feysydd megis iechyd, yr heddlu a'r sector preifat, felly mae hwn yn gyfle da i ddylanwadu ar waith rhanddeiliaid eraill yn ogystal â'r awdurdod lleol. Bydd eich Cyngor Gwirfoddol Sirol yn gwybod mwy am drefniadau lleol.
Bydd gwaith y Byrddau Gwasanaethau Lleol yn seiliedig ar gymuned yr ardal, ac ar sail hynny, bydd y Byrddau’n cytuno ar set o gyd-gamau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer cyflawni hyn ac yn sicrhau y cânt eu cyflawni. Caiff y camau hyn eu rhoi ar waith fel Cytundebau Cyflenwi Lleol.
Eu swyddogaeth yw sicrhau arweinyddiaeth ddygn a chyd-gyfrifol ar draws gwasanaethau cyhoeddus, mewn meysydd sy’n hollbwysig i'r ardal. Nid goruchwylio unrhyw un gwasanaeth penodol yw eu rôl, ond sicrhau ymateb system-gyfan effeithiol i anghenion dinasyddion. Dylai gwaith y Bwrdd fod yn seiliedig ar Strategaeth Gymunedol yr ardal.
Er enghraifft, pan gaiff gwasanaeth ei ddarparu gan ystod o wahanol gyrff, gall y Bwrdd ddatblygu patrymau gwaith newydd yn eu mudiadau cysylltiol, er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau di-dor sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy’n mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd problemau cyson a sylfaenol.
Bydd y Bwrdd yn sicrhau ymgysylltu effeithiol â'r dinesydd ar draws pob sector, er enghraifft, drwy weithio i ddatblygu strategaeth gyson ar gyfer ymgysylltu a thrafod gyda phob dinesydd, gan gynnwys plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, pobl o wahanol ddiwylliannau a thueddiadau, pobl sy'n siarad Cymraeg a phobl sy'n agored i niwed. Mae mudiadau’r trydydd sector yn bartneriaid allweddol i'r broses hon.
