Cydbwyllgor Cyswllt
Fel rheol, Grŵp neu Gydbwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol yw’r prif gyswllt rhwng y sector gwirfoddol ac unrhyw awdurdod lleol unigol. Fel rheol, mae’n cynnwys aelodau cyngor etholedig a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol. Mae’n cytuno ar y compact a hefyd yn brif gyfrwng ar gyfer sicrhau y caiff y compact a'i gynlluniau cysylltiedig eu rhoi ar waith. Pan fydd Cydbwyllgor Cyswllt yn bodoli, bydd eich Cyngor Gwirfoddol Sirol bob amser yn hwyluso cyfraniad y sector gwirfoddol. Caiff cyfraniad yr awdurdod lleol ei hyrwyddo gan wahanol rannau o’r awdurdod mewn meysydd gwaith gwahanol megis gwasanaethau corfforaethol a gwasanaethau cymdeithasol. Cofiwch gysylltu â'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol i ganfod mwy am Gydbwyllgor Cyswllt eich ardal chi.
