Canfod pa faterion sy’n cael eu trafod

Gallwch ganfod pa faterion sy’n cael eu trafod ymhlith eich cynghorwyr lleol drwy fynd i gyfarfodydd a/neu edrych ar waith papur y cyfarfodydd hynny. Cewch fynd i'r rhan fwyaf o gyfarfodydd y cyngor, ond fel rheol, ni chewch siarad yn y cyfarfodydd hynny.

Rhaid i bob cyngor gyhoeddi "blaengynllun gwaith" a fydd yn rhestru'r penderfyniadau a wneir dros y misoedd nesaf. Byddant hefyd yn cyhoeddi papurau cyfarfod o leiaf bum diwrnod gwaith ymlaen llaw, ac ar ôl hynny byddant yn cyhoeddi cofnodion y cyfarfod, a fydd yn crynhoi'r penderfyniadau a wnaed. Dim ond mewn amgylchiadau prin y gall awdurdodau lleol atal y cyhoedd rhag mynd i gyfarfodydd a dal papurau yn ôl.

Bydd blaengynllun gwaith cyfarfodydd a’r gwaith papur a gyhoeddir ar gael ar wefan eich cyngor. Os ydych chi'n gwybod beth sy’n cael ei drafod, bydd gennych gyfle i ddylanwadu ar y drafodaeth drwy gysylltu â chynghorwyr.