Cyflwyniad i lywodraeth leol
14 Medi 2010Hyfforddwr: Michelle Matheron/Jen Bradbury
Hyd: ½ diwrnod 10am – 1pm
Lleoliad: Ty Baltig, Caerdydd
Nodau:
Helpu cyfranogion i ddeall sut mae llywodraeth leol yn gweithio a pha gyfleoedd sydd ar gael i gyfrannu at benderfyniadau, polisïau a gwasanaethau a dylanwadu arnynt.
Cynnwys:
Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol sydd â'r nod o helpu pobl i ddeall strwythur llywodraeth leol, yr hyn mae'n ei wneud ac i egluro rhai o'r prif ffyrdd y gall y trydydd sector chwarae rhan mewn llywodraeth leol a dylanwadu ar y maes hwnnw. Cewch wybod mwy am y rhesymau pam mae cynghorau lleol yn ymdrin â phethau'n wahanol ar draws Cymru; pwysigrwydd cynlluniau, strategaethau a phartneriaethau gwahanol; beth yn union yw compact; yr hyn mae Byrddau Gwasanaethau Lleol yn ei wneud a phwysigrwydd y swyddogaeth graffu.
Canlyniadau dysgu:
Ar ôl mynychu'r cwrs hwn byddwch yn gallu:
• deall sut mae llywodraeth leol yn gweithio a’r ffyrdd allweddol y gellir dylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau cynghorau lleol;
• gwella’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o bwysigrwydd ac effaith cyfrannu at y swyddogaeth graffu;
• deall pwysigrwydd eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi’i anelu at bobl sy’n gweithio yn y trydydd sector sydd angen ymgysylltu â’u hawdurdodau lleol.
Ffioedd: £10 (a TAW)
I lawrlwytho ffurflen gais, cliciwch yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, e-bost at vfcc@wcva.org.uk
