Adnoddau eraill

Yn yr adran hon cewch weld dolenni i adnoddau a chyrff defnyddiol eraill. Maent yn berthnasol i'r gwaith y mae Lleisiau dros Newid Cymru yn ymwneud ag ef, ac rydym yn gobeithio eu bod yn ddefnyddiol i’ch helpu i gael dweud eich dweud.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), sef llais y sector gwirfoddol yng Nghymru, sy’n cynrychioli ac yn ymgyrchu dros fudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau.

Cyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) yw chwaer-fudiad WCVA yn Lloegr. Mae ganddo dîm Effeithiolrwydd wrth Ymgyrchu a ariennir yn dda, sy’n gwneud llawer o waith da ar faterion ymgyrchu a lobïo. Mae hefyd yn bwysig cofio bod Cymru’n dal yn rhan o’r DU, ac felly mae systemau a phrosesau San Steffan yn dal yn berthnasol i wleidyddiaeth Cymru.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Mae ei gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth yn ôl pwnc ar faterion sy'n effeithio ar lywodraeth leol. Mae’n werth cofio bod WCVA yn gweithio'n glòs gyda CLlLC i gyfleu buddiannau'r trydydd sector i lywodraeth leol.