Amddiffyn a hyrwyddo lles plant yng Nghymru – dweud eich dweud

9 Maw 2010

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd sy'n edrych ar berfformiad Byrddau Lleol Diogelu Plant (LSCB’s) er mwyn cryfhau trefniadau ar gyfer amddiffyn a hyrwyddo lles plant.

Bydd ymchwiliad Byrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru yn ystyried:

  • Pa mor briodol yw Polisïau a Chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru o ran bod yn berthnasol i Fyrddau Lleol Diogelu Plant?
  • Pa mor briodol yw cwmpas a ffocws cyfrifoldebau Byrddau Lleol Diogelu Plant?
  • Aelodaeth Byrddau Lleol Diogelu Plant o ran swyddogaeth partneriaid statudol a hefyd y sector gwirfoddol a sefydliadau llai neu arbenigol;
  • Trefniadau ar gyfer ariannu Byrddau Lleol Diogelu Plant;
  • Perthynas y Byrddau Lleol Diogelu Plant â phartneriaid lleol eraill, yn cynnwys Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc; Partneriaethau Diogelwch Cymunedol; Byrddau Gwasanaeth Lleol; y timau integredig Cymorth i Deuluoedd arfaethedig.
  • Pa mor effeithiol yw Byrddau Lleol Diogelu Plant wrth hyrwyddo diogelwch a lles grwpiau penodol o blant agored i niwed fel plant sydd ag anableddau, plant ceiswyr lloches a phlant a gaiff eu masnachu, plant duon a lleiafrifoedd ethnig?
  • Pa mor effeithiol yw Byrddau Lleol Diogelu Plant yn eu rôl benodol o hyrwyddo cyfrifoldebau rhannu gwybodaeth a dyletswyddau asiantaethau sy’n bartneriaid i Fyrddau Lleol Diogelu Plant?
  • Pa mor effeithiol yw Byrddau Lleol Diogelu Plant o ran cynnwys plant a phobl ifanc yn eu gwaith?

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ymatebion yw dydd Gwener 9 Ebrill 2010.

Ceir rhagor o wybodaeth yma