Dweud eich dweud ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig

12 Ebr 2010

Byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gael clywed eich barn ynghylch y mynediad, y driniaeth a’r gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael i bobl sy’n cael anawsterau iechyd meddwl yng Nghymru. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ymatebion yw dydd Gwener 14 Mai 2010.

Bydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 yn ystyried y canlynol:

i) a oes angen Mesur arfaethedig i gyflawni’r amcanion a ganlyn:

- darparu gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol yn gynt i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl er mwyn lleihau’r risg o ddirywiad pellach yn eu hiechyd meddwl ac, mewn rhai achosion, lleihau’r angen iddynt gael eu trin yn yr ysbyty a’u cadw yn yr ysbyty’n orfodol;

- sicrhau bod pawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru yn cael cydgysylltydd gofal penodol ac yn cael cynllun gofal a thriniaeth, a bod gan bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fynediad i’r gwasanaethau hynny pan fyddant yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio;

- ymestyn darpariaeth o wasanaethau eirioli iechyd meddwl y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar hyn o bryd.

ii) a yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni’r amcanion hyn;

iii) y darpariaethau allweddol sydd wedi’u gosod allan yn y Mesur arfaethedig ac a ydynt yn addas ar gyfer cyflawni’r amcanion;

iv) y rhwystrau posibl i’r broses o roi’r darpariaethau allweddol ar waith ac a yw’r Mesur arfaethedig yn ystyried y rhain;

v) barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio’n unol â’r trefniadau newydd.

Dylid anfon ymatebion i legislationoffice@wales.gsi.gov.uk ac mae mwy o wybodaeth ar gael yma