Adnoddau eraill

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yw un o’r llefydd gorau i gael hyd i ragor o wybodaeth ac adnoddau am ymgyrchu. Hwn yw corff cyfatebol WCVA yn Lloegr, ac mae ganddo gyllid penodol ar gyfer ei Dîm Effeithiolrwydd wrth Ymgyrchu, sy’n "cefnogi ac yn grymuso pobl a chyrff i newid eu byd drwy ymgyrchu a dylanwadu ar bolisïau"

Cliciwch yma i fynd i’r wefan lle gwelwch amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol y gallwch ei llwytho i lawr

Mae adnoddau ymgyrchu i'w gweld ar wefan VolResource hefyd, sy'n darparu gwybodaeth i fudiadau gwirfoddol a chymunedol. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

I gael gwybodaeth am ymgyrchu effeithiol gan fudiad o'r trydydd sector sydd wedi hen gyfarwyddo â'r dechneg, beth am ymweld â gwefan Cyfeillion y Ddaear? Er y bydd hyn yn amlwg o ddiddordeb i grwpiau'r trydydd sector sy'n gweithio ar faterion amgylcheddol, ceir llu o daflenni gwybodaeth ac awgrymiadau a fydd yn berthnasol i fudiadau eraill hefyd. Cliciwch yma i weld adran ymgyrchu’r wefan.