Monitro cynnydd a gwerthuso
Sut beth fyddai llwyddiant?
Cymerwch amser i werthuso, i bwyso a mesur ac i addasu’r ymgyrch os bydd angen.
Ceisiwch fonitro ble mae'r ymgyrch wedi cael effaith, e.e. os byddwch yn anfon briff at Aelodau’r Cynulliad, edrychwch a ydynt wedi’i ddyfynnu neu’i ddefnyddio.
Dathlwch bob llwyddiant, ond cofiwch y gall newid gymryd llawer o amser.
Os llwyddwch i sicrhau newid mewn polisïau, peidiwch â dathlu'n rhy fuan oherwydd gweithredu'r newid hwnnw sy'n bwysig mewn gwirionedd.
