Sefydlu nodau a phrif negeseuon yr ymgyrch

Rhaid cyfleu eich negeseuon yn briodol ar gyfer eich cynulleidfa/oedd. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai papur newydd tabloid yn ymateb yn well i stori bersonol emosiynol, tra byddai gwas sifil angen gwybodaeth fwy ffeithiol o ffynhonnell eglur.

Byddwch yn benodol – meddyliwch am ambell i newid penodol y carech ei weld, a datblygu ychydig o negeseuon allweddol y gellir eu cyflwyno'n syml ac yn effeithiol.

Ceisiwch ganolbwyntio ar atebion. Cynigiwch rywbeth y mae’n rhaid i lunwyr penderfyniadau ei wrthwynebu.