Datblygu cynllun gweithgareddau

Beth ydych chi'n mynd i'w wneud? Ceir amrywiaeth eang o dechnegau ymgyrchu – dewiswch y rhai sy’n gweddu i chi wrth ystyried eich gallu, eich materion, eich cynulleidfa a'ch nodau. (Ceir gwybodaeth am dechnegau lobïo ac ymgyrchu ar ddalen wybodaeth ar wahân)

Mae amserlenni’n bwysig. Os bydd angen i chi wneud ymchwil neu bwyso a mesur y mater gyda rhanddeiliaid, cofiwch ganiatáu amser ar gyfer hyn wrth gynllunio eich ymgyrch.

Meddyliwch am nodau tymor byr a hirdymor yn yr ymgyrch e.e. efallai y byddai sicrhau sedd wrth y bwrdd sy'n llunio penderfyniadau yn nod tymor byr, ac y byddai gwireddu penderfyniadau gwahanol yn nod hirdymor.