Cyfarwyddyd y Comisiwn Elusennau ar ymgyrchu
Mae rhai o elusennau cofrestredig y trydydd sector yn pryderu ynghylch faint o waith ymgyrchu y gallant ei wneud, gan eu bod yn credu nad yw’r Comisiwn Elusennau’n caniatáu gweithgarwch ymgyrchu. Mae’r Comisiwn Elusennau'n darparu cyfarwyddyd hynod gyflawn ar y mater hwn yn eu dogfen:
CC9 – Dweud eich Dweud - Canllaw ar Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau
Mae'r ddogfen i’w gweld ar wefan y Comisiwn Elusennau. Dylech ddarllen y ddogfen hon os oes gennych unrhyw amheuaeth, ond safbwynt cyffredinol y Comisiwn yw bod ymgyrchu a gweithgarwch gwleidyddol (ond nid gweithgarwch plaid wleidyddol) yn rhan werthfawr a dilys o weithgarwch elusen pan fydd wedi penderfynu cefnogi'r achos elusennol. Ond ni chaiff fod yn weithgarwch parhaus nac yn unig weithgarwch yr elusen, ac ni chaiff fod yn sail i fodolaeth yr elusen. Mae’r Comisiwn o blaid gwaith ymgyrchu yng nghyd-destun ceisio cyflawni nodau elusennol, a cheir crynodeb o'i safbwynt yn y datganiad hwn gan y Comisiwn:
"Mae profiad elusennau yn golygu ei bod yn iawn iddynt gael llais cryf a phendant. Byddant yn aml yn siarad ar ran y rheini sy'n ddi-rym, ac na allant ddadlau eu hunain dros eu hachos. Bydd elusennau’n herio anghyfiawnder cymdeithasol ar brydiau, gan fod hynny'n rhywbeth y mae arnynt eisiau mynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol. Mae gwaith elusennau, a'u rhan enfawr mewn bywyd cyhoeddus, yn rhywbeth y dylent ymfalchïo ynddo."
