Technegau lobïo ac ymgyrchu

Cyn penderfynu pa dechnegau ymgyrchu y byddwch yn eu defnyddio mae’n hynod bwysig dilyn y camau cynllunio. Y broses hon fydd y sail i benderfynu pa dechnegau fydd yn ddefnyddiol a phryd y dylid eu defnyddio. Os yw’r gwaith cynllunio’n wael, a’r technegau wedi’u rhuthro neu heb gael eu hystyried yn drwyadl, gallai fod yn wrthgynhyrchiol i’ch ymgyrch ac yn niweidiol i’ch mudiad.

Amrywiaeth y tactegau

Ceir amrywiaeth enfawr o dechnegau ymgyrchu a lobïo y gallech eu hystyried er mwyn datblygu'ch ymgyrch. Dyma restr anghyflawn gyda’r technegau wedi’u gosod mewn categorïau eang:

Cyhoeddi

  • Ysgrifennu llythyrau

  • Taflenni

  • Cardiau post

  • Ymgyrch e-bost

  • Ymgyrch gwefan rhwydweithio cymdeithasol

  • Cylchlythyrau

  • Erthyglau

  • Posteri

  • Bathodynnau

Y Cyfryngau

  • Papurau newydd

  • Radio

  • Teledu

  • Datganiadau i’r wasg

Personol

  • Ymgyrch dros y ffôn

  • Canfasio o ddrws i ddrws

  • Cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb (unigolion/cynrychiolwyr)

  • Digwyddiadau/cyfarfodydd cyhoeddus

  • Deisebau

Proffil uchel

  • Gwrthdystiad

  • Picedu

  • Gorymdeithio

  • Arddangos baneri

  • Protestiadau cyhoeddus

  • Gweithredu uniongyrchol