Sefydliad Aren Cymru – Ymgyrch “Pobl Fel Ni”
Gyda help llaw Positif Politics, cynhaliodd Sefydliad Aren Cymru ymgyrch lwyddiannus i wella’r modd y darperir gwasanaethau arennol yng Nghymru, gan gynyddu nifer y rhoddwyr organau a datblygu'r ddadl ynghylch rhoi organau yng Nghymru.
Lluniwyd clymblaid o gyrff sydd â diddordeb mewn hyrwyddo rhoi organau, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain, Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Fferyllol ac amrywiaeth o gyrff eraill yn y trydydd sector, megis RNIB, Diabetes UK, Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymddiriedolaeth Cystic Fibrosis a’r British Liver Trust.
Llwyddasant i sicrhau cefnogaeth y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, i'w hymgyrch.
Maent wedi cyflwyno deiseb drwy broses ddeisebau'r Cynulliad. Dyma’r ddeiseb gyntaf i gael ei chyflwyno gan gorff yn hytrach na chan grŵp o unigolion, a sicrhawyd bod y cyfryngau'n rhan o'r ymgyrch er mwyn cael cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl wrth gyflwyno’u deiseb.
Roedd eu deiseb yn gofyn yn glir ac yn syml am arian gan y Gweinidog ar gyfer ymgyrch rhoi organau, ac i'r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol gynnal ymchwiliad ar ganiatâd tybiedig i roi organau.
Barnwyd iddi fod yn ymgyrch lwyddiannus gan fod arian wedi'i sicrhau ar gyfer ymgyrch rhoi organau Dywed wrth Rywun Agos, ac mae’r ymgyrch honno wedi cael cefnogaeth sylweddol gan gyrff a llu o enwogion hefyd.
Hefyd, mae ymchwiliad y Pwyllgor ynghylch caniatâd tybiedig wedi esgor ar amryw o gamau cadarnhaol, gan gynnwys:
- gwell ymwybyddiaeth o'r problemau;
- adolygiad o gapasiti trawsblannu ledled Cymru;
- y Pwyllgor yn gwrthod gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol i gyflwyno caniatâd tybiedig, OND, mae'r Gweinidog wedi cefnu ar yr argymhelliad hwn – nid yw wedi diystyru’r posibilrwydd o ddeddfu ar ganiatâd tybiedig, ac mae’n cynnal ymgynghoriad pellach ar y mater.
Dyma oedd gan y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart AC, i'w ddweud wrth sôn am werth ymgyrch Pobl Fel Ni,
"Mae (Pobl Fel Ni) wedi bod yn ymgyrch hynod gyfrifol sydd wedi ceisio tynnu sylw at y camau ymarferol y gallwn eu cymryd i wella ansawdd bywyd cleifion â chanddynt broblemau gyda’u harennau... Mae Sefydliad Aren Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol i dynnu sylw’r cyhoedd a ninnau’r gwleidyddion at y materion hyn. Dylid ei ganmol am hynny, oherwydd dyna yw rôl y sector gwirfoddol. Y fantais fawr yw y gall y sector gwirfoddol weld yn glir iddo lwyddo i helpu'r Llywodraeth i edrych ar ei pholisïau. Mae hynny o fudd i'r Llywodraeth ac i waith y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae'n bwysig nodi'r pwynt hwnnw."
