Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig

Er bod datganoli wedi digwydd er 1999 mae Cymru’n dal yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae llawer o’r prif benderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau’n cael eu gwneud gan Senedd y Deyrnas Unedig. Mae’r rhan hon o’r wefan yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut mae Senedd y Deyrnas Unedig yn gweithio.

Mae’r berthynas rhwng Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfateb i’r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y Senedd yw’r ddeddfwrfa a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r Weithrediaeth.

Mae Senedd y Deyrnas Unedig yn cynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Mae’r blaid (neu’r pleidiau) sydd â’r mwyafrif mwyaf yn Nhŷ’r Cyffredin yn dilyn etholiad cyffredinol yn ffurfio’r Llywodraeth.

Mae gan Gymru 40 etholaeth ac mae pob etholaeth yn ethol un Aelod Seneddol. Cliciwch yma i gael gweld pwy yw eich AS chi.

Mae’n bwysig bod pob mudiad yng Nghymru sy’n dymuno dylanwadu ar bobl sy’n gwneud penderfyniadau’n cofio am Wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod nifer o feysydd polisi pwysig nad ydynt wedi eu datganoli i Gymru a hefyd oherwydd bod Senedd y Deyrnas Unedig yn dal i chwarae rhan bwysig wrth roi pwerau deddfu i Gymru.

Mae gwefan Senedd y Deyrnas Unedig yn darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol am ddau Dŷ’r Senedd a deddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Mae gan Senedd y Deyrnas Unedig hefyd wasanaeth allgymorth sy’n darparu gwybodaeth i fudiadau sy’n awyddus i wybod mwy am waith y Senedd. Cliciwch yma i weld tudalennau tîm allgymorth Cymru.