Sut mae’r Senedd yn gweithio
Mae gan y Deyrnas Unedig system ddwysiambr, sy’n golygu bod materion yn cael eu trafod a phenderfyniadau’n cael eu gwneud mewn dwy siambr. Y ddwy siambr hyn yw Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Mae eu gwaith yn debyg: gwneud deddfau (deddfwriaeth), cadw llygad ar waith y llywodraeth (craffu), a thrafod busnes y dydd. Mae Tŷ’r Cyffredin hefyd yn gyfrifol am roi arian i’r llywodraeth drwy gymeradwyo Mesurau sy’n codi trethi. Yn gyffredinol, rhaid i’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn un Tŷ gael eu cymeradwyo gan y llall. Mae hyn yn golygu bod y system ddwysiambr yn gweithredu fel rhwystrau a gwrthbwysau i’r ddau Dŷ.
Mae’r Senedd yn archwilio ac yn herio gwaith y llywodraeth. Mae Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi’n defnyddio dulliau craffu tebyg, er bod y gweithdrefnau’n amrywio. Y prif ddulliau yw cwestiynau i weinidogion y llywodraeth, dadleuon a gwaith ymchwiliol pwyllgorau. Gall y llywodraeth ymateb yn gyhoeddus er mwyn egluro a chyfiawnhau polisïau a phenderfyniadau.
Cwestiynau
Gall cwestiynau i weinidogion y llywodraeth gael eu hateb ar lafar neu yn ysgrifenedig. Mae gweinidogion o bob un o adrannau’r llywodraeth yn mynychu Tŷ’r Cyffredin ar sail rota i ateb cwestiynau llafar. Mae’r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob dydd Mercher. Yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae’r Tŷ’n gofyn cwestiynau i weinidogion y llywodraeth ar ddechrau busnes pob diwrnod, ond nid oes diwrnodau penodol ar gyfer adrannau’r llywodraeth.
Dadleuon
Mae dadleuon yn Nhŷ’r Cyffredin yn edrych ar faterion cenedlaethol a rhyngwladol a gallant fod ar unrhyw bwnc. Cynhelir pleidlais yn aml er mwyn gweld a oes mwyafrif o’r Aelodau naill ai’n derbyn neu’n gwrthod unrhyw gynigion sy’n cael eu trafod.
Yn Nhŷ’r Arglwyddi, neilltuir un diwrnod yr wythnos ar gyfer dadleuon cyffredinol a chynhelir dadleuon byr y rhan fwyaf o ddiwrnodau (yn para am awr a hanner). Ni chynhelir pleidlais ar ddadleuon o’r fath.
Pwyllgorau
Mae pwyllgorau sy’n cynnwys grwpiau llai o Aelodau Seneddol a/neu Arglwyddi yn edrych yn fanwl ar faterion polisi neu ar ddeddfwriaeth benodol. Mae gan wahanol bwyllgorau wahanol rolau, yn amrywio o gynnig cyngor i gynhyrchu adroddiadau neu newid deddfwriaeth. Mae gan y ddau Dŷ bwyllgorau parhaol a thros dro. Mae Aelodau Seneddol ac Arglwyddi hefyd yn gweithio gyda’i gilydd mewn Cydbwyllgorau Dethol. Mae’r llywodraeth yn cyhoeddi ymatebion i’r rhan fwyaf o adroddiadau pwyllgorau. Un o’r pwyllgorau pwysicaf y dylai mudiadau yng Nghymru fod yn ymwybodol ohono yw’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.
Am wybodaeth fanylach a thaflenni ffeithiau am bob agwedd ar waith y Senedd cliciwch yma.
