Tŷ’r Cyffredin

Tŷ’r Cyffredin yw’r tŷ sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd yn Senedd y Deyrnas Unedig. Mae pob un o’r 646 Aelod Seneddol (AS) yn cynrychioli rhan wahanol o’r Deyrnas Unedig ac mae 40 AS yn cynrychioli Cymru.

Gallwch weld pa AS sy’n eich cynrychioli chi yma.

Etholir ASau mewn Etholiad Cyffredinol a rhaid cynnal etholiad o’r fath bob pum mlynedd o leiaf. Yn y Deyrnas Unedig, mae’r rhan fwyaf o’r ASau yn cynrychioli un o’r 3 prif blaid wleidyddol (Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol) ond mae llawer o bleidiau eraill ac ymgeiswyr annibynnol yn cael eu cynrychioli yn y Senedd hefyd. Etholir ASau o blith dewis o ymgeiswyr drwy system fwyafrif syml lle bydd pob unigolyn yn bwrw un bleidlais. Bydd yr ymgeisydd sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau’n dod yn AS dros yr etholaeth honno.

Mae ASau yn rhannu eu hamser rhwng gweithio yn y Senedd ei hun a gweithio yn yr etholaeth sydd wedi eu hethol. Mae rhai ASau o’r blaid sydd mewn grym yn dod yn weinidogion y llywodraeth â chyfrifoldeb penodol mewn meysydd penodol.

Pan fydd y Senedd yn eistedd (cyfarfod), bydd Aelodau Seneddol fel rheol yn treulio’u hamser yn gweithio yn Nhŷ’r Cyffredin. Gall hyn gynnwys codi materion sy’n effeithio ar eu hetholwyr, mynychu dadleuon a phleidleisio ar ddeddfau newydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ASau hefyd yn aelodau o bwyllgorau, sy’n edrych yn fanwl ar faterion, o bolisi’r llywodraeth a deddfau newydd, i bynciau ehangach fel hawliau dynol.

Yn eu hetholaethau, mae ASau yn aml yn cynnal 'cymorthfeydd' yn eu swyddfeydd, lle gall pobl leol alw heibio i drafod unrhyw faterion sy’n peri pryder iddynt. Mae ASau hefyd yn mynychu derbyniadau, yn ymweld ag ysgolion a busnesau ac, yn gyffredinol, yn ceisio cyfarfod cynifer o bobl ag y gallant. Mae hyn yn galluogi ASau i ddod yn fwy ymwybodol o gefndir a chyd-destun materion y gallant fod yn eu trafod pan fyddant yn dychwelyd i San Steffan.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith ASau cliciwch yma.

Busnes yn Nhŷ’r Cyffredin

Pan fydd y Senedd yn eistedd cynhelir busnes Tŷ’r Cyffredin yn ystod yr amseroedd isod:

Llun 2.30pm – 10.30pm

Mawrth 2.30pm – 10.30pm

Mercher 11.30am – 7.30pm

Iau 10.30am – 6.30pm

Gwener 9.30am – 3pm (DS Dim ond ambell ddydd Gwener pan fydd Mesurau Aelodau Preifat i’w trafod y bydd Tŷ’r Cyffredin yn eistedd)

Mae’r busnes yn dilyn yr un math o batrwm at ei gilydd ar ddiwrnod eistedd arferol, sef:

Gweddïau

Amser Cwestiynau

Datganiadau gan Weinidogion

Rhaniadau

Dadleuon gohirio

Mae busnes arall Tŷ’r Cyffredin yn cynnwys:

Cynigion cynnar-yn-y-dydd

Atebion ysgrifenedig i gwestiynau

Datganiadau ysgrifenedig

Am fanylion ynglŷn â busnes cyfredol Tŷ’r Cyffredin a busnes ar gyfer y dyfodol cliciwch yma.