Hanes datganoli yng Nghymru

Ffenomenon diweddar iawn yw datganoli yng Nghymru i’r mwyafrif o bobl. Fodd bynnag, dechreuodd datganoli gwleidyddol ar ei daith ddechrau’r ugeinfed ganrif, gyda chreu adrannau ar wahân ar gyfer Cymru yn y Gweinyddiaethau Addysg, Amaethyddiaeth, Yswiriant ac Iechyd. Cydlynodd y Gweinidog dros Faterion Cymreig amrywiaeth o swyddogaethau eang a drosglwyddwyd i Gaerdydd rhwng 1951 ac 1964. Yn 1964, cafodd y Swyddfa Gymreig ei sefydlu a phenodwyd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Parhau i dyfu wnaeth y Swyddfa Gymreig a throsglwyddwyd rhagor o swyddogaethau, nes yr 1990au, pan gafwyd newid aruthrol.

Yn 1997, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn o’r enw ‘Llais dros Gymru’, a oedd yn cynnig Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Cefnogwyd hyn gan bobl Cymru mewn refferendwm yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ac arweiniodd hyn at basio Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ac at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999.

Sefydlwyd y Cynulliad fel corff corfforaethol unigol a chanddo rywfaint o bwerau a chyfrifoldebau wedi'u trosglwyddo gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd y pwerau cyfyngedig hyn yn galluogi’r Cynulliad i wneud rheolau a rheoliadau cyffredinol (a elwir yn is-deddfwriaethau) dan Ddeddfau Seneddol y DU a oedd eisoes yn bodoli, ac i benderfynu ar flaenoriaethau polisi yng Nghymru. Ond, ni allai'r Cynulliad lunio ei ddeddfau ei hun (a elwir yn ddeddfwriaethau sylfaenol) na chodi ei drethi ei hun.

Fodd bynnag, mae datganoli yn broses barhaus yng Nghymru a sefydlwyd Comisiwn Richard – a oedd yn Gomisiwn annibynnol – gan Brif Weinidog Cymru i edrych ar hyd a lled pwerau'r Cynulliad, ymysg pethau eraill. Ysgogodd adroddiad y Comisiwn yn 2004 at gam nesaf datganoli, ar ffurf Papur Gwyn ‘Trefn Lywodraethu Well i Gymru’, a ddaeth yn 'Fesur Llywodraeth Cymru 2005', ac wedyn at ‘Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006’, ddaeth i rym ym mis Mai 2007.