Egluro’r jargon

Deddfau Seneddol

Deddfau a wneir gan Senedd y DU. Gall y deddfau hyn roi pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-deddfwriaethau ar gyfer Cymru.

Comisiwn y Cynulliad

Corff corfforaethol a sefydlwyd i gynorthwyo Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i cadeirir gan y Llywydd, ac mae’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau cymorth i Aelodau'r Cynulliad.

Mesurau’r Cynulliad

Deddfau Cymru y gellir eu defnyddio i greu deddfwriaeth newydd neu i ddiwygio Deddfau Seneddol sydd eisoes yn bodoli. Dim ond mewn meysydd y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd ynddynt y gellir gwneud Mesurau.

Pwyllgorau

Grwpiau trawsbleidiol o aelodau’r Cynulliad sy'n craffu ar bolisïau a deddfwriaethau.

Y Cwnsler Cyffredinol

Prif Gynghorydd Cyfreithiol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru, ond mae yn aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gweithredol

Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r corff gweithredol (gellir ei chymharu â Llywodraeth y DU), a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff deddfu (gellir ei gymharu â Senedd y DU).

Meysydd

Meysydd polisi’r Llywodraeth sydd wedi’u datganoli i Gymru, fel y’u rhestrir yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 e.e. Maes 1: amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig.

Prif Weinidog Cymru

Aelod o’r Cynulliad a gaiff ei enwebu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’i benodi gan y Frenhiniaeth. Arweinydd plaid fwyaf y Cynulliad fel rheol. Pennaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sef cam diweddaraf datganoli yng Nghymru, yn rhoi mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, yn newid y system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, yn caniatáu refferendwm ar bwerau deddfu llawn os bodlonir meini prawf penodol ac yn gwahanu canghennau gweithredol a deddfwriaethol y Cynulliad.

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD)

Mae GCD yn rhoi caniatâd i’r Cynulliad Cenedlaethol greu deddfau mewn meysydd polisi penodol. Rhaid i'r Cynulliad wneud cais am Gymhwysedd Deddfwriaethol ac i’r Senedd gytuno iddo cyn y gellir gwneud deddfau (mesurau) newydd. Gorchymyn yw GCD, sy’n trosglwyddo pwerau penodol o Senedd y DU i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Corff Deddfu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff deddfu (gellir ei gymharu â Senedd y DU) a Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r corff gweithredol (gellir ei chymharu â Llywodraeth y DU).

Materion

Mae angen cynnwys Materion mewn meysydd (meysydd polisi’r Llywodraeth a ddatganolwyd i Gymru) er mwyn i’r Cynulliad Cenedlaethol allu gwneud deddfau (mesurau) mewn unrhyw faes penodol E.e. Dan Faes 5, sef addysg a hyfforddiant, mae amryw o faterion wedi cael eu cynnwys, megis Mater 5.1: Darpariaeth ynghylch categorïau o ysgolion y gellid eu cynnal gan awdurdodau addysg lleol. Mae hyn yn rhoi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru greu ei ddeddfau ei hun yn y maes polisi hwn.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC)

Deddfwrfa Cymru sydd wedi’i gwahanu oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Cymdeithas anghorfforedig o 60 o Aelodau Cynulliad, sydd â swyddogaethau deddfu a chraffu.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Aelod o Lywodraeth y DU sy'n gweithredu i sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu cyfleu i Lywodraeth y DU pan fydd y Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru. AS o Gymru yw'r Ysgrifennydd Gwladol fel rheol, a gall fod yn bresennol yng Ngweithrediadau'r Cynulliad ond ni chaiff bleidleisio ac nid yw’n Aelod o'r Cynulliad.

Is-ddeddfwriaeth

Fe’i gelwir hefyd yn ddeddfwriaeth eilaidd neu’n ddeddfwriaeth ddirprwyedig. Deddfau a wneir gan Weinidogion Cymru dan bwerau a roddwyd iddynt gan Ddeddfau Seneddol. Gweinidogion Cymru sy'n gwneud y mwyafrif o is-ddeddfwriaethau mewn materion datganoledig.

Atodlen 5

Mae Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru yn rhestru meysydd Polisi’r Llywodraeth a ddatganolwyd i Gymru. Gall y Cynulliad wneud cais i faterion gael eu cynnwys yn y meysydd hyn. Ar ôl cynnwys mater mewn maes (naill ai gan Ddeddf Seneddol neu gan Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol) gall y Cynulliad lunio ei ddeddfau ei hun (mesurau) yn y maes polisi hwnnw.

Llywodraeth Cynulliad Cymru

(LlCC)

Corff gweithredol Cymru sydd wedi’i wahanu oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn aelodau o LlCC mae Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a dirprwy Weinidogion Cymru. Ei rôl yw datblygu polisïau a gwneud penderfyniadau.