Datganoli gwleidyddol pellach

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gam interim yn hanes datganoli gwleidyddol yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn datgan bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu cyfyngedig mewn meysydd polisi datganoledig a bod yn rhaid iddo gael caniatâd Senedd y DU i weithredu'r pwerau hynny, a hynny fesul achos.

Mae Deddf 2006 yn paratoi ar gyfer rhagor o bwerau i Gymru, os bydd dinasyddion Cymru'n cytuno i hyn drwy refferendwm. Hefyd, er mwyn galw refferendwm rhaid i o leiaf ddau draean o Aelodau'r Cynulliad a San Steffan a Thŷ'r Arglwyddi gytuno iddo, a bydd yn rhaid ennill y refferendwm gyda phleidlais o fwyafrif er mwyn i'r pwerau cynyddol ddod i rym, yn ôl y Ddeddf.

Y pwerau newydd posibl

Pe câi refferendwm ei chynnal, a’i hennill, byddai Cymru’n symud at drefniant newydd a nodir yn Rhan 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn rhan o’r trefniant hwn, câi’r holl bwerau deddfu posibl sydd gennym ar hyn o bryd eu trosglwyddo gyda'i gilydd, ac ni fyddai'n rhaid i'r Cynulliad geisio pwerau gan San Steffan fesul achos mwyach. Yn sgil hynny gallai’r Cynulliad gymeradwyo Deddfau ym mhob un o’r meysydd polisi datganoledig. Ond, dim ond 20 maes polisi datganoledig fyddai ganddo o hyd (yr un rhai ag sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 5 ar hyn o bryd) ac ni fyddai'r Cynulliad yn gallu deddfu ym mhob agwedd ar yr 20 maes polisi hyn – mae nifer o eithriadau wedi'u rhestru. Mae hyn oll wedi’i nodi’n fanwl yn Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Byddai’r trefniant newydd yn dileu’r system o orfod gofyn am ganiatâd (cymhwysedd deddfwriaethol) i ddeddfu ac efallai'n symleiddio'r system ac yn ei gwneud yn gliriach, ond nid yw'n rhoi'r un pwerau i Gymru ag sydd gan yr Alban. Nid yw’n rhoi pwerau codi trethi i Gymru ac nid yw ond yn rhoi'r pŵer i ddeddfu mewn amryw o feysydd a ddiffinnir yn glir. Mae system yr Alban yn caniatáu i Senedd yr Alban ddeddfu ym mhob maes ar wahân i’r rheini sydd wedi’u cyfyngu. Ond yng Nghymru, hyd yn oed os symudwn i Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru, byddwn yn dal i fethu deddfu mewn meysydd ar wahân i’r rheini a ganiateir.

Confensiwn Cymru Gyfan

Mae'r Confensiwn wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori drwy Gymru yn ogystal â chymryd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar a chomisiynu ymchwil. Mae wedi bod yn pwyso a mesur i ba raddau y mae pobl yn deall y setliad datganoli presennol, beth yw barn pobl am y posibilrwydd y gallai Cymru gael mwy o bwerau deddfu; y problemau y gall y sefydliadau hynny sydd ar hyn o bryd yn ceisio ymgyrchu dros ddeddfu yng Nghymru fod yn eu hwynebu; ac amrywiaeth o bynciau eraill sy'n berthnasol i'r posibilrwydd o ddatganoli rhagor o bwerau megis capasiti ac adnoddau.

Cyflwynodd WCVA a nifer o fudiadau eraill yn y trydydd sector dystiolaeth i'r Confensiwn ac mae prosiect Lleisiau dros Newid Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y sector yn cael gwybodaeth am y ddadl bwysig hon a'i fod yn cael ei gynrychioli ynddi. Cyflwynodd y Confensiwn ei adroddiad i'r Prif Weinidog ac i'r Dirprwy Brif Weinidog ar 18 Tachwedd 2009.

I ddarllen yr adroddiad llawn neu’r crynodeb gweithredol, cliciwch yma.

Rydym wedi llunio papur gwybodaeth ar adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan sy’n nodi’r prif argymhellion, yr ystyriaethau i’r trydydd sector a’r camau nesaf.

Mae’r papur i’w gael yma.

Goblygiadau i’r trydydd sector yng Nghymru

Gallai datganoli pellach ei gwneud yn haws i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo deddfwriaethau, ac felly mae’n bosibl y byddai llawer o fudiadau'r trydydd sector yng Nghymru yn croesawu hynny. Fodd bynnag, mae amryw o gyrff yn awgrymu nad yw’r pwerau newydd yn mynd yn ddigon pell. Er ei bod yn amlwg yn bwysig symleiddio prosesau cymhleth, mae hefyd yn bwysig cofio, er y byddai gan y Cynulliad fwy o bwerau deddfu, na fyddai ganddo bwerau i godi trethi. Heb y gallu i godi mwy o arian, mae'n bosibl y bydd yn dal yn amhosibl mynd i'r afael â'r materion y mae'r sector yn eu dwyn i sylw llunwyr penderfyniadau.

Cliciwch yma i weld yr hyn a gyflwynodd WCVA i Gonfensiwn Cymru Gyfan.