Meysydd datganoledig

Mae 20 maes polisi eang wedi’u datganoli i Gymru gan y DU, ac maent wedi’u nodi yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn golygu y gall y Cynulliad greu deddfau mewn 20 maes polisi, sef:

· Maes 1 – amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig

· Maes 2 – henebion ac adeiladau hanesyddol

· Maes 3 – diwylliant

· Maes 4 – datblygu economaidd

· Maes 5 – addysg a hyfforddiant

· Maes 6 – yr amgylchedd

· Maes 7 – y gwasanaethau tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân

· Maes 8 – bwyd

· Maes 9 – iechyd a gwasanaethau iechyd

· Maes 10 – priffyrdd a thrafnidiaeth

· Maes 11 – tai

· Maes 12 – llywodraeth leol

· Maes 13 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

· Maes 14 – gweinyddiaeth gyhoeddus

· Maes 15 – lles cymdeithasol

· Maes 16 – chwaraeon a hamdden

· Maes 17 – twristiaeth

· Maes 18 – cynllunio gwlad a thref

· Maes 19 – amddiffyn rhag llifogydd a dŵr

· Maes 20 – yr Iaith Gymraeg

Fodd bynnag, er mwyn creu deddfau yn y meysydd hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad gael yr hyn a elwir yn gymhwysedd deddfwriaethol er mwyn creu deddfau mewn meysydd penodol. Ystyr hyn yn syml yw ei bod yn rhaid i'r Cynulliad gael caniatâd cyfreithiol gan y DU i greu deddfau mewn meysydd penodol. Ar ôl cael y caniatâd hwn, caiff Mater ei gynnwys yn y maes, a phresenoldeb, neu absenoldeb, Mater mewn Maes sy’n dangos a oes gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i greu deddfau ar y mater hwnnw. Nid oes Mater wedi’i gynnwys ym mhob Maes ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu na all y Cynulliad ddeddfu yn y meysydd hynny eto, am nad oes ganddo'r awdurdod cyfreithiol i wneud hynny.

Mae hwn yn faes deinamig o wybodaeth. Caiff Materion eraill eu cynnig yn gyson a bydd yr wybodaeth yn parhau i newid wrth i bwerau deddfwriaethol y Cynulliad ehangu. Cliciwch yma i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Atodlen 5.