Gwleidyddiaeth Ewropeaidd
Mae gwleidyddiaeth ar lefel Ewropeaidd yn gallu bod yn ddryslyd iawn ac yn gallu teimlo’n bell iawn oddi wrthych chi. Yn naturiol, mae nifer o bobl yn teimlo nad ydynt yn deall pam mae gwleidyddiaeth Ewropeaidd yn bwysig i Gymru, yn enwedig gan ein bod wedi cael pwerau cenedlaethol datganoledig erbyn hyn.
Fodd bynnag, mae gwleidyddiaeth Ewropeaidd yn cael effaith fawr ar fywydau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) oherwydd mae cyfreithiau’r UE yn berthnasol i’r holl aelod wladwriaethau a bydd mwyafrif y deddfau a gaiff eu pasio gan seneddau cenedlaethol yn cael eu drafftio mewn ymateb i gyfarwyddebau Ewropeaidd.
Y Cytundebau Ewropeaidd (a elwir yn ddeddfwriaeth gynradd) yw sail y corff mawr o is-ddeddfwriaeth sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau dinasyddion yr UE. Mae’r is-ddeddfwriaeth yn bennaf yn cynnwys rheoliadau, cyfarwyddebau ac argymhellion sy’n cael eu mabwysiadu gan sefydliadau’r UE.
Ceir enghreifftiau o ddeddfwriaeth Ewropeaidd ar ddiogelu’r amgylchedd, hawliau defnyddwyr, cyfle cyfartal, trafnidiaeth, a symud gweithwyr, cyfalaf, gwasanaethau a nwyddau yn ddirwystr.
Er mwyn deall sut mae’r broses hon o wneud penderfyniadau yn gweithio, mae’n bwysig cychwyn drwy ddeall yr Undeb Ewropeaidd.
Byddwch yn ymwybodol hefyd fod llawer o sylw wedi'i roi i rywbeth a elwir yn Gytundeb Lisbon, a fydd yn newid rhai agweddau ar sut mae’r Undeb Ewropeaidd yn gweithio. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Gytundeb Lisbon.
