Cytundeb Lisbon

Beth yw Cytundeb Lisbon?

Cytundeb rhyngwladol ydyw a gytunwyd gan bob un o’r 27 gwlad sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar ôl 8 mlynedd hir o ddatblygu, trafod ac oedi. Cyfansoddiad ydyw, i bob pwrpas, neu gyfres o reolau am sut bydd yr UE yn gweithio. Y rheswm pennaf dros ddatblygu’r cytundeb hwn oedd ceisio gwneud i’r Undeb weithio’n fwy effeithlon. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar egwyddorion a ddatblygwyd ar gyfer Undeb Ewropeaidd llawer llai yn cynnwys 15 gwlad, a dadleuwyd bod angen newid sawl agwedd er mwyn adlewyrchu datblygiad yr Undeb i gynnwys 27 gwlad.

Daw’n gyfraith ar 1 Rhagfyr 2009, ond ni fydd llawer o’r newidiadau’n dod i rym am sawl blwyddyn eto.

Felly, beth yw'r prif newidiadau?

Mae swm enfawr o wybodaeth yn y cytundeb newydd hwn ac ymhlith rhai o’r prif newidiadau y mae'r canlynol:

  • Daw Cyngor Ewrop yn sefydliad UE swyddogol. Dyma brif weinidogion a/neu lywyddion y 27 aelod-wladwriaeth sy’n cwrdd hyd at 4 gwaith y flwyddyn ar hyn o bryd mewn cyfarfodydd uwchgynhadledd arbennig i bennu polisi UE cyffredinol. Ar hyn o bryd, mae’r cadeirydd yn newid bob 6 mis rhwng y gwahanol aelod-wladwriaethau. Yn unol â Chytundeb Lisbon, penodir Llywydd Cyngor Ewrop (Herbert van Rompuy) gan bleidlais mwyafrif y Cyngor a bydd yn y swydd am 2 flynedd a hanner (gellir penodi eto unwaith). Rhan o’r rôl fydd cynrychioli Ewrop ar lwyfan y byd.

  • Caiff swydd newydd Uwch Gynrychiolydd (yr Undeb dros Faterion Tramor a Pholisi Diogelwch) ei chreu (Cathy Ashton). Mae llawer o bobl yn awgrymu y bydd y swydd hon yn rhyw fath o rôl "gweinidog tramor yr UE". Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gael eu henwebu gan lywodraethau’r aelod-wladwriaethau a chânt eu penodi gan Gyngor Ewrop.

  • Bydd llai o Gomisiynwyr Ewropeaidd sy’n golygu na fydd gan bob aelod-wladwriaeth Gomisiynydd mwyach. Ond ni fydd hyn yn newid cyn 2014.

  • Bydd nifer Aelodau Senedd Ewrop yn newid ac yn aros yn sefydlog ar 751. Y rheswm dros hyn yw’r newid yn uchafswm ac isafswm Aelodau Senedd Ewrop a ganiateir o bob aelod-wladwriaeth. Ni fydd hyn yn newid tan yr etholiadau Ewropeaidd nesaf a gynhelir yn 2013.

  • Bydd gan Senedd Ewrop (sy’n cynnwys Aelodau Senedd Ewrop sy’n cynrychioli dinasyddion gwledydd yr UE) fwy o bwerau yn y broses gyd-benderfynu o gymeradwyo deddfwriaeth a’r gyllideb, wrth i’r broses gael ei hymestyn i feysydd polisi newydd.

Mae Cytundeb Lisbon yn ddogfen hir sy’n cynnwys llawer o wybodaeth a dim ond rhywfaint o’r materion yr ydym wedi eu crybwyll yma. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.