Senedd Ewrop

Mae Aelodau Senedd Ewrop yn cynrychioli pobl aelod wladwriaethau’r UE. Dyma’r unig gorff etholedig yn yr Undeb Ewropeaidd, a chaiff yr Aelodau eu hethol bob pum mlynedd gan bobl yr aelod wladwriaethau. Bydd yn cwrdd ym Mrwsel ac yn Strasbwrg, ac mae ganddi hefyd swyddfeydd ysgrifenyddol yn Lwcsembwrg. Bydd yn cwrdd am 3 wythnos ym Mrwsel, ac yna’n symud i Strasbwrg am wythnos.

Mae’r DU wedi’i rhannu’n 12 o etholaethau Ewropeaidd, ac mae un o’r rheini’n cynrychioli Cymru gyfan. Mae pedwar Aelod Senedd Ewrop yn eich cynrychioli chi yn etholaeth y DU yng Nghymru. Roedd yr etholiadau diwethaf ym Mehefin 2009 a’r pedwar ASE sy’n cynrychioli Cymru yw:

· Kay Swinburne - Ceidwadwyr

· Derek Vaughan - Llafur

· Jill Evans - Plaid Cymru

· John Bufton - UK Independence Party

Mae’r rhan fwyaf o Aelodau Senedd Ewrop yn perthyn i un o saith grŵp gwleidyddol y senedd, yn hytrach nag eistedd fel dirprwyon cenedlaethol. Nid oes gan yr un o’r grwpiau fwyafrif cyffredinol, felly mae angen iddynt gydweithio i gyflawni pethau. Dyma’r saith grŵp gwleidyddol:

· Grŵp Plaid Pobl Ewrop (y Democratiaid Cristnogol) a’r Democratiaid Ewropeaidd

· Y Grŵp Sosialaidd yn Senedd Ewrop

· Grŵp Clymblaid y Rhyddfrydwyr a’r Democratiaid dros Ewrop

· Grŵp Undeb Ewrop dros y Cenhedloedd

· Grŵp y Pleidiau Gwyrdd/Clymblaid Rydd Ewrop

· Grŵp Cydffederal Asgell Chwith Unedig Ewrop – Llychlynwyr Gwyrdd yr Asgell Chwith

· Grŵp Annibyniaeth a Democratiaeth

Ni chaiff Senedd Ewrop na Chyngor yr UE gynnig deddfwriaeth – dim ond y Comisiwn Ewropeaidd a gaiff wneud hyn. Fodd bynnag, bydd Senedd a Chyngor yr UE yn mynd ati ar y cyd i drafod, i gynnig diwygiadau ac i bleidleisio i dderbyn neu wrthod mwyafrif y cyfreithiau arfaethedig. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae hyn yn gweithio.

Gall y Senedd effeithio ar ddeddfwriaeth mewn ffordd arall - os bydd mwy na hanner y Senedd yn cymeradwyo penderfyniad sy’n galw am ddeddfwriaeth mewn maes penodol, bydd yn rhaid i’r Comisiwn ymateb gyda chynnig priodol.

Mae gan y Senedd bwerau pwysig eraill hefyd, megis y gallu i ddiswyddo’r Comisiwn Ewropeaidd, i gynnal gwrandawiadau ynghylch Comisiynwyr newydd, ac mae’n rhannu’r cyfrifoldeb (ar y cyd â Chyngor y Gweinidogion) dros gymeradwyo cyllideb yr UE.