Y Comisiwn Ewropeaidd
Y Comisiwn yw trydedd ran y triongl sefydliadol sy’n rheoli ac yn rhedeg yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ddryslyd, mae’r Comisiwn yn cyfeirio at swyddogaeth gwasanaeth sifil y cyfarwyddiaethau sy’n gyfrifol am ystod o feysydd polisi, yn ogystal â’r "coleg" o Gomisiynwyr, sef y corff sy’n cynnig deddfwriaeth yr UE.
Mae’r Comisiwn yn cynnwys 27 o Gomisiynwyr, sef un o bob aelod wladwriaeth, ac mae gan bob un ohonynt gyfrifoldeb dros faes polisi. Cânt eu penodi gan yr aelod wladwriaethau, ac uwch wleidyddion ydyn nhw fel arfer. Y Cyngor Ewropeaidd sy’n cynnig enw llywydd y Comisiwn a rhaid i Senedd Ewrop ei gymeradwyo.☺ Bydd y darpar lywydd wedyn yn dewis y Comisiynwyr o’r rhestr o ymgeiswyr a gyflwynir gan wledydd yr UE, a rhaid i Gyngor y Gweinidogion a Senedd Ewrop gymeradwyo’r rhestr hon.
Fodd bynnag, fel sefydliad, mae’n annibynnol ar lywodraethau’r UE. Rôl y Comisiynydd yw cynnal buddiannau cyffredin yr UE i holl wledydd yr UE, felly ni ddylai’r Comisiynwyr weithredu er budd eu gwledydd unigol eu hunain. Un ymadrodd a ddefnyddir yn aml yw mai nhw yw "gwarcheidwaid y cytundebau", ac mae hyn yn golygu eu bod yn sicrhau bod yr aelod wladwriaethau yn parchu’r cytundebau a chyfraith y gymuned ac yn rhoi’r ddeddfwriaeth a fabwysiadir ar waith.
Mae gan y Comisiwn rôl bwysig mewn deddfwriaeth Ewropeaidd oherwydd hwn yw’r unig gorff a all gynnig deddfwriaeth. Rhaid i’r broses gwneud penderfyniadau ddigwydd ar y cyd rhwng Cyngor y Gweinidogion a Senedd Ewrop. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut mae hyn yn gweithio.
