Cyngor yr Undeb Ewropeaidd

Cyngor yr Undeb Ewropeaidd yw’r prif gorff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer y UE. Mae’n cynrychioli aelod wladwriaethau’r UE a bydd un gweinidog o bob un o’r llywodraethau cenedlaethol yn mynychu ei gyfarfodydd (dyma pam y caiff ei alw hefyd yn Gyngor y Gweinidogion).

Gall Cyngor yr Undeb Ewropeaidd gwrdd ar naw ffurf wahanol, yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei drafod. Felly, er enghraifft, os bydd addysg yn cael ei drafod, bydd Gweinidogion Addysg yr aelod wladwriaethau yn bresennol yn y cyfarfod, ac yn y blaen.

Dyma naw ffurf y Cyngor:

· Materion Cyffredinol a Chysylltiadau Allanol

· Materion Economaidd ac Ariannol

· Cyfiawnder a Materion Cartref

· Cyflogaeth, Polisi Cymdeithasol, Iechyd a Materion Defnyddwyr

· Cystadleurwydd

· Trafnidiaeth, Telathrebu ac Ynni

· Amaethyddiaeth a Physgodfeydd

· Yr Amgylchedd

· Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Mae gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd chwe phrif gyfrifoldeb:

· Pasio deddfau Ewropeaidd – ar y cyd â Senedd Ewrop. Cliciwch yma i weld sut mae hyn yn gweithio.

· Cymeradwyo cyllideb yr UE – ar y cyd â Senedd Ewrop. Unwaith eto, cliciwch yma i weld sut mae hyn yn gweithio.

· Cydlynu polisïau economaidd eang yr aelod wladwriaethau.

· Cwblhau cytundebau gyda gwledydd neu sefydliadau eraill.

· Datblygu Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin yr UE.

· Cydlynu’r cydweithio rhwng y llysoedd a’r heddluoedd cenedlaethol mewn materion troseddol.

Yr hyn sy’n bwysig i’w gofio am Gyngor yr Undeb Ewropeaidd yw ei fod yn cynrychioli llywodraethau’r aelod wladwriaethau, tra bo Senedd Ewrop yn cynrychioli pobl yr aelod wladwriaethau. Rhaid iddynt gydweithio â’i gilydd i gyflawni pethau yn yr UE.

Yn olaf, i ddrysu pethau ymhellach, ceir rhywbeth o’r enw’r Cyngor Ewropeaidd, lle bydd prif weinidogion a/neu arlywyddion yr aelod wladwriaethau’n cyfarfod. Cynhelir y cyfarfodydd "uwchgynhadledd" lefel uchel hyn hyd at bedair gwaith y flwyddyn er mwyn pennu polisïau cyffredinol yr UE ac i ddatrys materion na ellid eu datrys ar lefel is.