Hafan
Helo, a chroeso i wefan Lleisiau dros Newid Cymru.
Mae Lleisiau dros Newid Cymru yn un o brosiectau WCVA ac fe'i cefnogir gan y Gronfa Loteri Fawr. Nod y prosiect yw meithrin cyswllt rhwng mudiadau’r trydydd sector a phrosesau gwneud penderfyniadau cenedlaethol a lleol. Mae hyn yn golygu ein bod yn darparu ystod o wasanaethau gyda’r nod o’ch helpu chi i ddeall sut mae gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol yn gweithio yng Nghymru, sut caiff penderfyniadau eu gwneud a phwy sy’n eu gwneud, a sut mae ymgyrchu’n effeithiol i ddylanwadu ar y rheini sy’n gwneud penderfyniadau.
Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr ar sut mae datganoli’n gweithio yng Nghymru, gwybodaeth fanwl am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ogystal â gwybodaeth am wleidyddiaeth y DU ac Ewrop a sut mae hynny’n effeithio arnom yma yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am sgiliau ymgyrchu a sut mae sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r safle i gael amrywiaeth o ddeunyddiau gwybodaeth a manylion ein digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi. Caiff ein hadran newyddion diweddaraf ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth ddefnyddiol a chyfleoedd i ddweud eich dweud am y materion sydd o bwys i chi. Os ydych chi am gael mwy fyth o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â chael gwybod am ymgynghoriadau, ymchwiliadau a chyhoeddiadau sy’n berthnasol i chi, edrychwch ar ein gwasanaeth monitro’r Cynulliad, sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei ddiweddaru’n wythnosol.
Os hoffech gael negeseuon e-bost sy’n rhoi manylion y cyfleoedd i leisio’ch barn am y materion sydd o bwys i chi, ymunwch â’n cronfa ddata Lleisiau. Mae’n syml – dywedwch wrthym beth y mae gennych ddiddordeb ynddo, a byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am gyfleoedd perthnasol i ddylanwadu ar y rheini sy’n gwneud penderfyniadau.
Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau am y prosiect neu’r safle a rhoi gwybod i ni os oes unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei darparu neu unrhyw ffyrdd y gallem wella’r safle.
