Cyhoeddi Aelodau Newydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig
20 Gorff 2010
Yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU, mae Pwyllgor Dethol newydd ar Faterion Cymreig yn San Steffan erbyn hyn a Chadeirydd newydd wrth y llyw – David Davies AS. Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ymgymryd â dyletswyddau craffu pwysig ar waith Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Swyddfa Cymru, yn ogystal â chwarae rhan allweddol yn y broses Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.
Mae rhagor o wybodaeth am y pwyllgor a’i aelodau newydd ar gael yma.
