Defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ymgyrchu llwyddiannus - NEWYDD
1 Chwef 2011 Hyfforddwr: Louise Brown, NCVOHyd: 1 diwrnod
Lleoliad: Ty Baltig, Caerdydd
Nodau:
Rhoi cyfle i gyfranogion ddysgu am sut y gall y rhyngrwyd helpu gydag ymgyrchoedd, drwy edrych ar y safleoedd gorau i’w defnyddio, sut i’w defnyddio, ac edrych ar astudiaethau achos yng nghyswllt e-ymgyrchoedd llwyddiannus.
Cynnwys:
Bydd y cwrs hwn yn archwilio posibiliadau'r rhyngrwyd fel cyfrwng i gymell ymgyrchwyr a chyfleu negeseuon i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau. Mae hon yn ffordd gynyddol bwysig o gyfathrebu ac ymgyrchu a chynnull cefnogwyr. Bydd yn trin a thrafod sut y gall grwpiau yn y trydydd sector wneud y defnydd gorau o arfau ar-lein megis Youtube, Facebook, e-ddeisebau a Twitter, drwy edrych ar y sgiliau y mae arnoch eu hangen i gychwyn arni a manteision ac anfanteision rhai o'r arfau, a thrwy edrych ar rai astudiaethau achos llwyddiannus a'ch helpu i feddwl beth sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich ymgyrch.
Canlyniadau dysgu:
Ar ôl mynychu'r cwrs hwn byddwch yn gallu:
• Deall nifer o arfau e-ymgyrchu sydd ar gael ar-lein;
• Gwella eich gwybodaeth am e-ymgyrchoedd llwyddiannus;
• Cryfhau eich hyder yng nghyswllt defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgyrchu
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu’n bennaf at y bobl hynny sy'n gweithio yn y trydydd sector sydd a phrin ddim, neu ddim, profiad o ddefnyddio'r rhyngrwyd i lunio ymgyrchoedd.
Ffioedd: £25 (a TAW)
I lawrlwytho ffurflen gais, cliciwch yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, e-bost at vfcc@wcva.org.uk
