Cyflwyniad i ymgyrchu a lobïo
11 Tach 2010Hyfforddwr: Michelle Matheron/Jen Bradbury
Hyd: ½ diwrnod 10am – 1pm
Lleoliad: Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandridnod
Nodau:
Cyflwyno cyfranogion i hanfodion cynllunio ymgyrchoedd; beth i'w ystyried, beth i'w osgoi a rhai cynghorion ar sut i lwyddo.
Cynnwys:
Os ydych am i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau glywed eich llais er mwyn dylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau sy'n effeithio ar y bobl rydych chi’n gweithio â nhw, y peth cyntaf mae arnoch angen ei wybod yw pwy sy'n gwneud y penderfyniadau a sut i gysylltu â nhw - bydd eich cwrs Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Cymru yn eich helpu yn hyn o beth. Yna, mae angen i chi wybod sut i gyfathrebu a negodi'n effeithiol â’r unigolion hynny er mwyn dwyn perswâd arnynt – yn y bôn, rhaid ichi wybod sut i ymgyrchu a lobïo. Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn yn eich tywys drwy gamau sylfaenol cynllunio ymgyrch, yn rhoi'r cyfle ichi ddysgu drwy astudiaethau achos ac yn archwilio rhinweddau cymharol technegau ymgyrchu gwahanol.
Canlyniadau dysgu:
Ar ôl mynychu'r cwrs hwn byddwch yn gallu:
• deall camau gwahanol y broses cynllunio ymgyrchoedd;
• deall effeithiolrwydd technegau ymgyrchu a lobïo gwahanol;
• meithrin mwy o hyder yng nghyswllt cynllunio ymgyrchoedd.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n gweithio'n y trydydd sector sy'n newydd i rolau ymgyrchu a lobïo, neu'r rheiny sydd ond yn gwneud gwaith ymgyrchu'n achlysurol.
Ffioedd: £10 (a TAW)
I lawrlwytho ffurflen gais, cliciwch yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, e-bost at vfcc@wcva.org.uk
