Dylanwadu ar y Cynulliad

11 Hyd 2010

Hyfforddwr: Michelle Matheron/Jen Bradbury
Hyd: ½ diwrnod 9:30am – 1pm
Lleoliad: Neuadd Morfa, Y Rhyl

Nodau
Rhoi dealltwriaeth lawnach i gyfranogion o rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r cyfleoedd sydd ar gael i ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir wrth ddefnyddio strwythurau, staff a phrosesau LlCC.

Cynnwys
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio'n fanylach ar sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n gweithio - drwy edrych yn arbennig ar brosesau ar gyfer creu neu ddiwygio deddfwriaeth Gymreig, swyddogaeth craffu, gwaith y pwyllgorau a sut i ddarganfod beth sy’n digwydd yn y Cynulliad. Bydd pwyslais ar nodi ac egluro ffyrdd effeithiol o ddylanwadu ar wleidyddion a datblygu deddfwriaeth a pholisi, gan gynnwys y balot aelodau preifat a’r system deisebau, yn ogystal ag edrych ar rolau staff allweddol megis clercod pwyllgorau a dysgu mwy am ble i fynd i chwilio am fwy o wybodaeth.

Canlyniadau dysgu:
Ar ôl mynychu'r cwrs hwn byddwch yn gallu:

• Deall sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n gweithio
• Deall y gwahanol ffyrdd y gellir dylanwadu ar ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn LlCC
• Cryfhau eich gwybodaeth am sut i gadw’ch gwybodaeth yn gyfoes am ddatblygiadau newydd

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn o fudd i’r bobl hynny sydd eisoes â dealltwriaeth eithaf da o dirwedd wleidyddol Cymru a/neu sydd wedi bod ar ein cwrs Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Cymru a hanfodion ymgyrchu. Os nad ydych yn deall sut mae gwleidyddiaeth Cymru’n gweithio, yna gwnewch yn siwr eich bod wedi bod ar un o’n cyrsiau Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Cymru cyn archebu lle ar y cwrs hwn.

Ffioedd: £10 (a TAW)

I lawrlwytho ffurflen gais, cliciwch yma

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, e-bost at vfcc@wcva.org.uk