Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Cymru
18 Ion 2011Lleoliad: Ty Baltig, Caerdydd
Parhad: ½ diwrnod 10am – 1pm
Hyfforddwr: Michelle Matheron / Jen Bradbury
Nodau:
Rhoi gwybodaeth i gyfranogwyr am sut y gwneir penderfyniadau yn strwythurau gwleidyddol Cymru er mwyn iddynt allu gwella effeithiolrwydd eu hymgyrchu gwleidyddol.
Cynnwys:
Yng Nghymru, po fwyaf y gwyddoch am strwythurau gwleidyddol a sut y gwneir penderfyniadau, y rhwyddaf ydyw ichi ddechrau cynllunio’ch ymgyrch ddylanwadu. Bydd y gweithdy bywiog a chyfranogol hwn yn rhoi’r holl wybodaeth berthnasol ddiweddaraf ichi am lefelau llywodraeth, pa faterion y maent yn gallu gwneud penderfyniadau yn eu cylch a lle mae’r pwerau yng Nghymru.
Canlyniadau dysgu:
Ar ôl mynychu'r cwrs hwn byddwch yn gallu:
• Gwella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o sut mae strwythurau a phrosesau gwleidyddol Cymru’n gweithio.
• Dysgu pa faterion yr ymdrinnir â nhw ar lefel leol a chenedlaethol, ar lefel y DU ac ar lefel Ewrop
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn wedi'i anelu at y rheiny sy'n gweithio mewn mudiadau gwirfoddol a chymunedol sydd am ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yng Nghymru.
Ffioedd: £10 (a TAW)
I lawrlwytho ffurflen gais, cliciwch yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, e-bost at vfcc@wcva.org.uk
